Mae Is-orsaf Bodelwyddan yng Nghefn Meiriadog, ger Parc Busnes Llanelwy, ar lwybr y llinell uwchben rhwng Pentir a Chei Connah.

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Ym mis Hydref a mis Tachwedd 2023, fe wnaethom gynnal ymgynghoriad ar gynlluniau i ymestyn is-orsaf Bodelwyddan. Rydym yn cynnig ymestyn is-orsaf Bodelwyddan er mwyn i ni gael ffordd ddiogel o gysylltu’r rhwydwaith trydan â ffynonellau ynni adnewyddadwy glân a newydd yng ngogledd Cymru. 

Mae’r ymgynghoriad bellach wedi dod i ben, ac rydym wrthi’n casglu ac yn adolygu’r adborth. Hoffem ddiolch yn fawr i bawb a gymerodd ran ac a ddaeth i’n digwyddiadau. 

Rydym wrthi’n paratoi ein cais cynllunio i’w anfon at Gyngor Sir Ddinbych tua dechrau 2024.

 

Beth yw is-orsaf a beth mae'n ei wneud?

Mae is-orsafoedd trydanol, fel is-orsaf Bodelwyddan, yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o drawsyrru trydan drwy ein system genedlaethol.

Un o'r prif bethau mae is-orsaf yn ei wneud yw newid foltedd trydan. Defnyddir offer o'r enw trawsnewidyddion, sydd ar safle'r is-orsaf, i gynyddu neu ostwng y foltedd. 

Gwneir hyn fel y gall National Grid drawsyrru’r trydan ledled y wlad ac yna y gall y Gweithredwr Rhwydwaith Ardal, sef SP Energy Networks yn yr achos hwn, ei gyflenwi ar foltedd is i gartrefi a busnesau lleol.

Yn ogystal, yn Is-orsaf Bodelwyddan yng Nghefn Meiriadog, caiff trydan a gynhyrchir mewn gwahanol ffynonellau ei gysylltu â'r rhwydwaith trawsyrru cenedlaethol.

 

Ymestyn yr is-orsaf

Rydym yn cynnig ymestyn is-orsaf Bodelwyddan er mwyn i ni gael ffordd ddiogel o gysylltu’r rhwydwaith trydan â ffynonellau ynni adnewyddadwy glân a newydd yng ngogledd Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys ffermydd gwynt ar y môr EnBR a bp Mona ac RWE Awel y Môr, a chebl cydgysylltu dan y môr MaresConnect rhwng Cymru ac Iwerddon.

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer datblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy cynhenid newydd ar raddfa fawr dros y degawd nesaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i sicrhau bod yr hyn sy’n cyfateb i 70% o’r galw am drydan yng Nghymru yn dod o ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2030.

Er mwyn helpu i gyrraedd y targedau hyn, rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig, yn ogystal â rhanddeiliaid pwysig eraill, i edrych ar sefyllfaoedd yn y dyfodol ar gyfer uwchraddio’r system trawsyrru trydan.

Wrth i ni symud tuag at ddefnyddio ynni glân i yrru ein cerbydau trydan, gwresogi ein cartrefi, a phweru ein diwydiant, mae disgwyl y bydd y galw am drydan wedi o leiaf ddyblu erbyn 2050. Er mwyn bodloni’r galw hwn, bydd angen i ffynonellau cynhyrchu ynni newydd yn y DU gysylltu â’n rhwydwaith trydan. 

Gyda’i gilydd, mae hyn yn golygu bod angen uwchraddio’r grid, sef uwchraddiad unwaith mewn cenhedlaeth, ledled Cymru a Lloegr, er mwyn gwneud y rhwydwaith trawsyrru ynni yn fwy addas, yn wyrddach ac yn ddibynadwy ar gyfer ein dyfodol.

 

Ein cynigion i ymestyn yr is-orsaf

Rydym wedi ystyried nifer o opsiynau ynglŷn â sut a ble sydd orau i gysylltu ffynonellau ynni adnewyddadwy glân a newydd yng ngogledd Cymru. Ar ôl asesu opsiynau posibl, daethpwyd i’r casgliad bod angen i ni gynyddu maint ein his-orsaf bresennol ym Modelwyddan. 

Yn ystod hydref 2023, fe wnaethom gyhoeddi ac ymgynghori ar gynlluniau i wneud hyn, a gofyn i fusnesau, sefydliadau a’r bobl leol am eu hadborth ar ein cynigion. 

Mae ein cynlluniau yn cynnwys ymestyn yr is-orsaf tua 8,800 metr sgwâr i’r gorllewin. Mae’r estyniad hwn yn cynnwys ardaloedd ar gyfer nenbontydd newydd, ffordd fynediad a phennau selio ceblau’r datblygwr.

Yn yr is-orsaf, bydd adeilad newydd ar gyfer cyfarpar, a bydd ôl troed yr adeilad tua 1,263 metr sgwâr. Bydd yr estyniad i’r is-orsaf mewn cynllun tebyg ac ar yr un uchder â’r is-orsaf bresennol.

Gallwch ddarllen mwy am ein cynlluniau yn Nogfen Gryno'r Ymgynghoriad (Hydref 2023), a gafodd ei llunio gennym fel rhan o’n hymgynghoriad. 

 

Gwaith arall sydd angen i ni ei wneud

Gwaith ar wahân ond cysylltiedig yw bod angen i ni hefyd newid sut mae’r llinell uwchben bresennol, rhwng Pentir yng Ngwynedd a Chei Connah yn Sir y Fflint, yn mynd i mewn ac allan o’r is-orsaf ar ôl iddi gael ei hymestyn. 

Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn ar gael hefyd yn Nogfen Gryno'r Ymgynghoriad (Hydref 2023).

Ar ôl ystyried nifer o opsiynau ynglŷn â sut i wneud hyn, rydym yn cynnig addasu'r trefniant ‘T’ presennol a rhannu'r llwybr unigol presennol yn ddwy.

Mae'r elfen yma o’r gwaith ar y llinell uwchben bresennol yn dilyn proses gydsynio wahanol, sy’n mynnu ein bod yn gofyn am gymeradwyaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Adran 37 o Ddeddf Trydan 1989. Gofynnir am farn Cyngor Sir Ddinbych a sefydliadau perthnasol eraill fel rhan o’r broses. Gallwch chithau gymryd rhan yn y broses a chyflwyno sylwadau ar y cais am gydsyniad.


Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am is-orsaf Bodelwyddan, cysylltwch â ni’n uniongyrchol drwy e-bost, post neu radffôn.

Rhif ffôn: 0800 915 3596

E-bost: [email protected]

 


 

Bodelwyddan substation

Bodelwyddan substation is located in Cefn Meiriadog, adjacent to St Asaph Business Park, along the Pentir to Connah’s Quay overhead line route.

Latest update

In October and November 2023, we held a consultation on plans to extend Bodelwyddan substation. We are proposing to extend the substation so we can safely connect new sources of clean renewable energy in North Wales to the electricity network.

This consultation has closed, and we are collating and reviewing the feedback we received. We want to thank everyone who took part and came along to our events.

We are now preparing our planning application that will be submitted to Denbighshire County Council in early 2024.


What is a substation and what does it do?

Electrical substations, such as Bodelwyddan substation, play a key part in transmitting electricity through our national system.

One of the main typical roles of substations is to convert electricity into different voltages. The voltage is stepped up or down through equipment called transformers, which sit within the substation site. 

This is so the electricity can be transmitted throughout the country by National Grid and then delivered at a lower voltage to local homes and businesses by the District Network Operator, in this case SP Energy Networks.

Bodelwyddan substation at Cefn Meiriadog is also a connection point for sources of energy generation into the national transmission network.
 

Extending the substation

We propose to extend our Bodelwyddan substation so we can safely connect new sources of clean renewable energy in North Wales to the electricity network. These include the EnBW and bp Mona and RWE Awel y Môr offshore wind farms, and the MaresConnect subsea interconnector cable between Wales and Ireland.

Wales and UK Governments have set ambitious targets for developing new homegrown sources of renewable energy at scale over the next decade. The Welsh Government has set a target of meeting the equivalent of 70% of Wales’s electricity demand from renewable energy sources by 2030.

To help achieve these, we’re working closely with both UK and devolved Governments, as well as other important stakeholders, to look at future scenarios for upgrades to the electricity transmission system.

It’s also expected that demand for electricity will at least double by 2050 as we shift to clean energy to drive electric vehicles, heat our homes and power our industry. To meet this demand, new UK based sources of energy generation will need to connect to our electricity network. 

Together, this means a once-in-a-generation grid upgrade is needed across Wales and England, to make the energy transmission network fitter, greener and reliable for our future.

 

Our proposals to extend the substation

We have considered a number of options on how and where is best to connect new sources of renewable energy in North Wales. After assessing potential options, it was concluded that we need to extend our existing Bodelwyddan substation. 

In Autumn 2023 we published and consulted on plans to do this, and asked local people, businesses and other organisations for their feedback on our proposals. 

Our plans include extending the substation to the west by approximately 8,800 square metres. This extension includes areas for new gantries, an access road and developer cable sealing ends.

Within the substation there would be a new building that will house equipment, and this will have a footprint of approximately 1,263 square metres. The substation extension will be in a similar layout and at the same height as the current substation.

You can read more about our plans in our Autumn 2023 Consultation Summary Document, that we produced as part of our consultation.

 

Other work we need to do

As a separate but related part of our work, we need to change how the existing overhead line that currently runs between Pentir in Gwynedd and Connah’s Quay in Flintshire enters and leaves the expanded substation. 

More information about this work is also available in our Autumn 2023 Consultation Summary Document.

Having considered a number of options on how to do this, we propose to adjust the current ‘T’ arrangement and split the existing single route into two.

This element of the work on the existing overhead line follows a different consent process, which requires us to seek approval from the Secretary of State under Section 37 of the Electricity Act 1989. Denbighshire County Council and other relevant organisations will be asked for their views as part of this process. You can also take part in this process and make representations on the consent applications.


Get in touch

If you have any questions about Bodelwyddan Substation, please contact us directly via freephone or email.

Telephone: 0800 915 3596

Email: [email protected]