Is-orsaf Llandyfaelog 

Mae National Grid yn cynnig codi is-orsaf newydd ger Llandyfaelog, sydd i’r de o Gaerfyrddin, er mwyn helpu i ateb y galw cynyddol am drydan yn yr ardal.

Mae National Grid Electricity Transmission (NGET) yn datblygu cynlluniau i adeiladu is-orsaf drydan 400kV newydd ar dir ger Llandyfaelog yn Sir Gaerfyrddin. 

Mae’r is-orsaf arfaethedig yn Llandyfaelog yn ymateb i geisiadau cysylltu y mae NGET wedi’u derbyn ar gyfer De Cymru gan GreenGEN Cymru (rhan o grŵp Bute Energy) a National Grid Electricity Distribution (NGED).  Mae NGED yn gwmni ar wahân i National Grid Electricity Transmission (NGET), sy’n berchen ar y rhwydwaith ac yn gweithredu’r rhwydwaith trawsyrru foltedd uchel ledled Cymru a Lloegr. 

NGET fydd yn berchen ar yr is-orsaf 400kV arfaethedig yn Llandyfaelog, ac yn gyfrifol am ei chynnal. Disgwylir y bydd GreenGEN Cymru a NGED yn gwneud cais am ganiatâd cynllunio i adeiladu is-orsafoedd 132kV eu hunain wrth ymyl is-orsaf 400kV arfaethedig NGET.
 

Beth yw is-orsaf a sut mae’n gweithio?

Mae angen is-orsafoedd i droi trydan yn folteddau gwahanol.  Mae hyn yn bwysig er mwyn gallu trosglwyddo trydan yn ddiogel ac yn ddibynadwy ar hyd a lled y wlad, ac yna ei ddanfon ar foltedd is i’n cartrefi ac i’n busnesau.
 

Pam mae angen is-orsaf newydd?

Bydd yr is-orsaf arfaethedig yn Llandyfaelog yn helpu i ateb y galw am drydan yn Ne Cymru. Bydd hyn hefyd yn helpu twf busnesau yn y rhanbarth yn ogystal â chefnogi targedau sero net Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i roi pŵer ynni gwyrdd i bob cartref a busnes erbyn 2035.

Fel busnes sy’n cael ei reoleiddio, mae dyletswydd gyfreithiol arnom i gysylltu cwsmeriaid â’n rhwydwaith pan ofynnir am gysylltiad.  Ar gyfer y cynllun hwn, rydym wedi cael ceisiadau am gysylltiad gan GreenGEN Cymru (rhan o Grŵp Bute Energy) a National Grid Electricity Distribution (NGED), un o gwmnïau eraill National Grid sydd ar wahân i NGET. Nid oes gan yr is-orsafoedd presennol yn yr ardal y capasiti ar gyfer maint y cysylltiad a dyna pam fod angen is-orsaf newydd yn yr ardal.
 

Pam rydym yn defnyddio mwy o drydan?

Roeddem yn arfer dibynnu ar danwydd ffosil, ond bydd angen i ni ddechrau defnyddio rhagor o drydan yn y dyfodol i bweru ein bywydau bob dydd, ac ar gyfer ein gwres a’n ceir. Amcangyfrifir y bydd y defnydd o drydan yn y DU yn cynyddu tua 50% erbyn 2036, a mwy na dyblu erbyn 2050.

Mae’r newid hwn at ynni adnewyddadwy ynghyd â chynnydd yn y boblogaeth yng Nghymru a Lloegr, yn golygu bod mwy o alw ar ein rhwydwaith i gysylltu ffynonellau ynni newydd a chwsmeriaid. Mae’r is-orsaf arfaethedig yn Llandyfaelog yn ymateb i’r cais am fwy o gysylltiad a’r cynnydd yn y defnydd o drydan a fydd yn parhau i dyfu.
 

Pam dewis Llandyfaelog fel y safle rydym ni’n ei ffafrio?

Cafwyd ystyriaethau technegol, cynllunio ac amgylcheddol helaeth fel rhan o’r broses i ddod o hyd i’r safle mwyaf addas ar gyfer yr is-orsaf newydd hon. Mae’r safle rydym ni’n ei ffafrio, tua 6km i’r de o Gaerfyrddin, ac mae’n dal i fod yn destun ymchwiliadau ac arolygon amgylcheddol pellach a chytundebau â pherchnogion tir. Mae’r safle o dan linellau uwchben presennol National Grid i’r dwyrain o’r A484 yn Upland Arms ac i’r gogledd o Lôn Ceirw.
 

Sut i cael yr wybodaeth ddiweddaraf am is-orsaf arfaethedig Llandyfaelog?

Gallwch gofrestru eich diddordeb yma i gael diweddariadau rheolaidd am is-orsaf arfaethedig Llandyfaelog.

Byddwn hefyd yn gwahodd pobl i rannu barn ar ein cynigion ar gyfer is-orsaf newydd yn ein hymgynghoriad cymunedol sydd wedi’i drefnu ar gyfer canol flwyddyn yma, lle gallwch gwrdd â thîm y prosiect a gofyn cwestiynau am ein cynlluniau. Bydd yr adborth a geir yn yr ymgynghoriad hwn yn helpu i lunio ein cynlluniau gyn cyflwyno ein cais cynllunio hwyrach fflwyddyn yma.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am is-orsaf arfaethedig Llandyfaelog yn y cyfnod cyn yr ymgynghoriad, gallwch hefyd gysylltu â’n tîm cysylltiadau cymunedol drwy:

E-bost: [email protected] 

Ffôn: 0800 915 3595

Post: FREEPOST NG Llandyfaelog


Llandyfaelog Substation 

National Grid is proposing a new substation near Llandyfaelog, south of Carmarthen, to help meet the growing demand for electricity in the area.

National Grid Electricity Transmission (NGET) is developing plans to build a new 400kV electricity substation on land near Llandyfaelog in Carmarthenshire.

The proposed substation at Llandyfaelog is in response to connection requests NGET has received for South Wales from GreenGEN Cymru (part of the Bute Energy group) and National Grid Electricity Distribution (NGED). NGED is a separate company to National Grid Electricity Transmission (NGET) which owns and operates the high voltage transmission network across Wales and England. 

NGET will own and maintain the proposed 400kV substation at Llandyfaelog. It is expected GreenGEN Cymru and NGED will each apply for planning permission to build their own 132kV substations next to the proposed NGET 400kV substation site.

What is a substation and how do they work?

Substations are needed to convert electricity into different voltages. This is important so that electricity can be transmitted safely and reliably throughout the country and then delivered at a lower voltage to our homes and businesses.
 

Why is a new substation needed?

The proposed substation at Llandyfaelog will help meet electricity demand in South Wales.  It will also help regional businesses grow as well as supporting the Welsh and UK Government’s net zero targets to power all homes and businesses with green energy by 2035.

As a regulated business we have a legal obligation to connect customers to our network when a connection is requested.  For this scheme, we have received connection requests from GreenGEN Cymru (part of the Bute Energy Group) and National Grid Electricity Distribution (NGED), a separate National Grid company to NGET. Our existing substations in the area do not have the capacity for the size of the connection hence the need for a new substation in the area.
 

Why are we consuming more electricity?

Where we previously relied on fossil fuels, in the future we will need to use more electricity to power our daily lives including for our heating and cars. It’s estimated that electricity consumption in the UK will increase by approximately 50% by 2036 and more than double by 2050.

This shift towards renewable energy coupled with an increase in population in Wales and England, means there is greater demand on our network to connect new sources of electricity and customers. The proposed substation at Llandyfaelog is in response to the increased connection request and increased consumption of electricity that will continue to grow.
 

Why has Llandyfaelog been selected as the preferred site?

Extensive technical, planning and environmental considerations were taken into account as part of the process to identify the most suitable site for this new substation. Our preferred site, which remains subject to further environmental investigations, surveys and agreements with landowners, is situated approximately 6km south of Carmarthen, beneath the existing National Grid overhead lines to the east of the A484 at Upland Arms and north of Ceirw Lane.
 

How can I keep informed about the proposed Llandyfaelog substation?

You can register your interest here to receive project updates about the proposed Llandyfaelog substation.

We will also be inviting people to share views on our proposals for a new substation at our community consultation planned for mid-2024 where you can meet the project team and ask questions about our plans. The feedback received at this consultation will help us shape our plans before submitting a planning application to Carmarthenshire County Council later in the year.

If you have any questions about the proposed Llandyfaelog substation in the run-up to the consultation, you can also get in touch with our community relations team via:


Email: [email protected] 

Phone: 0800 915 3595

Post: FREEPOST NG Llandyfaelog