
Darpar beirianwyr o Goleg Menai yn ymweld â safle prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri
Yn ystod yr ymweliad, roedd y myfyrwyr, sydd wrthi’n dilyn cwrs Lefel 3 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig ar gampws Llangefni, wedi cael cyfle i brofi peirianneg sifil yn y byd go iawn.
Bryony Brown, Peiriannydd Prosiect Twnnel ar brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, oedd yn tywys yr ymweliad a oedd wedi cynnwys cyflwyniad gan aelodau o dîm y prosiect a thaith gerdded o amgylch safle'r prosiect.
Nod y tîm oedd rhoi profiad a fyddai'n helpu i wella dealltwriaeth y myfyrwyr o ddatblygu seilwaith ar raddfa fawr a'u haddysgu am dechnegau twnelu, ystyriaethau amgylcheddol a sgiliau rheoli prosiectau mewn lleoliad go iawn.
Mae Coleg Menai wedi nodi eu bwriad i weithio gyda thîm y prosiect i gynnwys astudiaeth achos o Ddarpariaeth Effaith Weledol Eryri yn eu modiwl peirianneg sifil, a byddwn ni’n hwyluso ymweliadau i fyfyrwyr â safle'r prosiect yn y dyfodol.
Dywedodd Holly Watkinson, darlithydd Adeiladu a Pheirianneg Sifil yng Ngholeg Menai, a oedd wedi trefnu'r ymweliad ac wedi gofalu am y myfyrwyr ar y diwrnod:
Roedd y profiad hwn yn arbennig o werthfawr oherwydd bydd y myfyrwyr yn astudio modiwl ar beirianneg sifil y flwyddyn nesaf. Mae ymweld â safle'r prosiect wedi helpu i bontio'r bwlch rhwng theori'r ystafell ddosbarth ac arferion y diwydiant, ar yr un pryd ag ysbrydoli eu dyheadau gyrfa a dyfnhau eu gwybodaeth dechnegol.
Hoffem ddiolch i National Grid a Hochtief am drefnu diwrnod mor werthfawr.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y prosiect, cysylltwch â thîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri drwy anfon e-bost at [email protected] neu ffonio 0800 019 1898. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges ac fe wnaiff aelod o’n tîm gysylltu â chi.