Close-up of electricity transmission tower in hilly landscape in Snowdonia, Wales
Prosiect mawr ar y gweill yn eryri i gael gwared ar beilonau
  • Gwaith paratoi ar y gweill yn 2022 i waredu peilonau o Aber Afon Dwyryd
  • National Grid am adeiladu twnnel newydd o dan yr aber i osod ceblau a dau dŷ pen twnnel sy’n gweddu i’r dirwedd leol
  • Y trydydd prosiect mawr ar fin dechrau fel rhan o gynllun ehangach i leihau effaith gweledol llinellau foltedd uchel presennol mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol

Bydd 2022 yn garreg filltir bwysig wrth i brosiect ddechrau ar y safle i drawsnewid tirwedd Eryri, sy’n dirwedd o bwysigrwydd cenedlaethol, ac a fydd yn y pen draw yn cael gwared â’r llinell drydan uwchben a’r peilonau ar draws Aber Afon Dwyryd.

Bydd National Grid yn dechrau’r gwaith arolygu amgylcheddol ac archaeolegol yn ystod y gwanwyn pan fydd ein timau mewn siacedi llachar oren i’w gweld yn gweithio yn yr ardal a’r cyffiniau. Bydd y gwaith hwn yn parhau drwy’r haf gan ddarparu gwybodaeth hanfodol ar gyfer dylunio’r prosiect yn fanwl cyn dechrau ar y prif waith adeiladu yn 2023.

Yn yr hydref, bydd y tîm yn dechrau paratoi’r safleoedd adeiladu yn Garth, ger tir presennol y National Grid, ac yng Nghilfor. Dyma lle bydd y ddau dŷ pen twnnel yn cael eu lleoli ar bob pen er mwyn cludo’r seilwaith o dan yr aber.

Ar ôl cwblhau’r gwaith cychwynnol hwn, bydd y rhaglen waith yn parhau yn 2023 gyda suddo’r siafftiau, adeiladu’r twnnel, adeiladu’r tai bob pen, gosod y ceblau a chomisiynu. Disgwylir y bydd y peilonau’n cael eu clirio wedyn yn 2029.

Bydd y National Grid yn gweithio mewn partneriaeth â’r prif gontractwr, Hochtief, a gyflwynodd dendr llwyddiannus am y gwaith mewn cystadleuaeth ryngwladol a ddaeth i ben ddiwedd y llynedd.

Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd prosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP) y National Grid, yn tynnu deg peilon a thua 3km o’r llinell uwchben presennol sy’n rhedeg o Finffordd, ar draws Aber Dwyryd, ac i’r dwyrain ychydig ymhellach na Chilfor.  Lluniwyd y prosiect i wella’r ardal brydferth a phoblogaidd ar gyfer y bobl leol a’r ymwelwyr sydd yn ei mwynhau’n rheolaidd.

Dywedodd Steve Ellison, Uwch Reolwr Prosiect Eryri VIP y National Grid: “Rydyn ni wedi bod yn cynllunio ar gyfer y prosiect hwn ers peth amser. Mae’r bobl leol yn falch iawn bod y peilonau’n dod i lawr ac maen nhw wedi bod yn amyneddgar iawn wrth aros i ni ddechrau arni.

Efallai y byddwch hefyd yn gweld aelodau o’r tîm allan yn codi sbwriel neu’n helpu i glirio llwybrau troed gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Rydyn ni am helpu i wneud yn siŵr bod y lleoliad hardd hwn yn parhau felly.”

Dywedodd Chris Baines, Cadeirydd Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid cenedlaethol ac annibynnol y prosiect VIP: “Rwy’n falch iawn bod y prosiect hwn ar fin dechrau. Bydd yr effaith yn drawsnewidiad, a bydd trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd yn gallu mwynhau gogoniant Aber Dywyrd heb ei difetha am y tro cyntaf ers cenedlaethau lawer.

“Mae’r tîm yn y National Grid wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid lleol a’r gymuned i ddatblygu’r cynlluniau hyn, ac rwy’n gwybod y byddan nhw’n parhau i wneud hynny drwy gydol y cyfnod adeiladu. Dwi wedi gweld y gwaith maen nhw wedi’i wneud yn Dorset a’r Peak District ac mae’n rhagorol. Rwy’n hyderus y byddan nhw’n dod â’r un safonau uchel, gofal am yr amgylchedd a syniadau arloesol i Ogledd Cymru.”