Community Liaison Group meeting for National Grid's Snowdonia VIP project
Working with the community crucial for National Grid in Snowdonia

Grwp Cyswllt Cymunedol Cyntaf yn denu presenoldeb cryf o amrywiaeth o grwpiau lleol

Cymerodd Darpariaeth Effaith Weledol y Grid Cenedlaethol yn Eryri gam pwysig arall ymlaen gyda chyfarfod cyntaf Grŵp Cyswllt Cymunedol y prosiect.

Cynhaliwyd y cyfarfod ddydd Iau 23 Mehefin yn y Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth ac fe’i mynychwyd gan gynrychiolwyr allweddol o’r gymuned gan gynnwys Cynghorwyr Gwynedd lleol, Gwynfor Owen a Meryl Roberts, yn ogystal â chynrychiolwyr o Gyngor Tref Penrhyndeudraeth, Talsarnau a Chynghorau Cymuned Maentwrog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cymdeithas Eryri, yr Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Cymdeithas Cerddwyr Meirionnydd a Grwp Seiclo Gogledd Cymru.

Bydd y Grŵp Cyswllt Cymunedol yn cwrdd yn rheolaidd drwy gydol y prosiect sy’n ceisio trawsnewid y dirwedd ar draws Aber Afon Dwyryd drwy dynnu 10 peilon a thua 3.5km o’r llinell drydan uwchben, a gosod ceblau wedi’u claddu mewn twnnel yn ddwfn o dan yr aber.

Rhoddodd y Grid Cenedlaethol gyflwyniad ar yr hyn y gall y gymuned ddisgwyl ei weld dros y saith mlynedd nesaf a’r amserlen ar gyfer y gwaith adeiladu a fydd yn dechrau’n llawn yn nes ymlaen yn 2022.  Mae gwaith cychwynnol eisoes ar y gweill, a bydd pobl leol yn gweld aelodau o’n tîm yn gwneud rhywfaint o waith ecolegol ac archeolegol dros yr haf. 

Dywedodd yr Uwch Reolwr Prosiect, Steve Ellison, sy’n arwain tîm y Grid Cenedlaethol ac a gyflwynir i’r Grŵp, “Ochr yn ochr â diogelwch, mae ein perthynas â’r gymuned yn hollbwysig i ni. Mae’r Grŵp Cyswllt Cymunedol yn un o’r nifer o ffyrdd y byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned drwy gydol y gwaith adeiladu. Rydyn ni hefyd wedi sefydlu gwefan, llinell ffôn a chyfeiriad e-bost. Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad galw heibio cyhoeddus yn nes ymlaen yn y flwyddyn, lle gall pobl ddod draw i gwrdd â’r tîm.”

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd y Cynghorydd Gwynfor Owen sydd yn cynrychioli Talsarnau fel rhan o Ward Harlech a Llanbedr, a’r Cynghorydd Meryl Roberts sydd yn cynrychioli Ward Penrhyndeudraeth:

“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r Grid Cenedlaethol am y ffordd maent wedi ymgysylltu a’r Gymuned Leol. Roedd y cyfarfod cychwynnol yn arwydd pendant iawn o sut maent am weithio. Bydd yr holl gymuned yn elwa nid yn unig o effaith gweledol y cynllun ond hefyd o’r Grantiau Cymunedol Lleol. Rydym yn hapus iawn I drafod gyda unrhyw grwp lleol a all o bosib fanteisio ar y grantiau neu unrhywun sydd a unrhyw gonsyrn ynglyn a’r datblygiad.”

Rhoddodd y Grid Cenedlaethol fanylion ei Raglen Grantiau Cymunedol hefyd, sydd wedi’i hanelu at elusennau a mudiadau cymunedol mewn ardaloedd lle mae gwaith y Grid Cenedlaethol yn effeithio ar bobl leol drwy ein gweithrediadau a’n gweithgareddau ar y safle.

Mae’n ariannu prosiectau sy’n cael eu rhedeg gan elusennau a grwpiau cymunedol sy’n diwallu anghenion y gymuned leol drwy ddarparu amrywiaeth o fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.  Gall mudiadau sydd â phrosiectau sy’n bodloni’r meini prawf wneud cais am grant o hyd at £20,000*. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://www.nationalgrid.com/responsibility/community/community-grant-programme