Bydd ymwelwyr â thref glan môr Llandudno yn cael cyfle i fwynhau’r traethau ar eu newydd wedd, diolch i waith rhagorol gan dîm o’r National Grid.

Fel rhan o waith a gydlynwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (NWWT), bu 45 aelod o’r tîm Ceblau Seilwaith Newydd o dan arweiniad Aaron Hall yn glanhau traeth Pen Morfa Llandudno am ddwy awr. Casglwyd bron i 50 bag o sbwriel ynghyd â gwahanol ddarnau o bren, plastig a rhwydi sy’n barod i gael eu cludo oddi yno gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae’r tîm yn ymwneud â sawl prosiect ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys ISS, Ceblau o Ddinorwig i Bentir, gwaith Adnewyddu Gogledd Orllewin Cymru a Darpariaeth Effaith Weledol Eryri.

Ar ôl y gwaith glanhau, rhoddwyd yr offer a ddefnyddiwyd i godi’r sbwriel (Cipwyr Sbwriel a chylchoedd bin) i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Roedd Mark Roberts, Rheolwr Marchnata, Aelodaeth a Recriwtio Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a gydlynodd y gwaith, wrth ei fodd gyda’r rhodd. Cafodd yr eitemau hyn eu defnyddio ar unwaith bron gan ysgol leol a oedd wedi trefnu i gasglu sbwriel mewn lleoliad arall yn yr ardal drannoeth. Byddai’r offer ychwanegol yn cael effaith gadarnhaol iawn ar y digwyddiad gan y byddai’r plant i gyd nawr yn gallu defnyddio eu hoffer eu hunain yn hytrach na gorfod rhannu.”

Yn ogystal â chodi sbwriel, bu’r tîm hefyd yn helpu i gasglu casys wyau a ddefnyddiwyd i ganfod a chofnodi rhywogaethau a oedd yn bresennol yn yr ardal. Ymhlith y rhywogaethau a gofnodwyd ar y diwrnod oedd y forgath ddu, a dwy rywogaeth o forgwn.

Bydd y gwaith ar brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn dechrau eleni ac mae’r tîm yn awyddus i gymryd rhan mewn digwyddiadau lleol a chyfleoedd gwirfoddoli.