Gosodwyd y ceblau gwreiddiol yn yr 1970au ac mae angen eu newid erbyn hyn er mwyn sicrhau bod y cyflenwadau trydan i’r ardal leol a'r tu hwnt yn dal yn gadarn ac yn ddibynadwy.
Mae Gorsaf Bŵer Dinorwig yn rhan hanfodol o rwydwaith trydan Cymru a Lloegr. Mae’n cynhyrchu llawer o bŵer ychwanegol yn gyflym pan fydd y galw am drydan ar ei uchaf, gan helpu National Grid i ddarparu cyflenwad dibynadwy i gartrefi a busnesau Prydain. Yn ogystal, mae’r orsaf yn chwarae rhan allweddol yn nyfodol ynni carbon isel Prydain trwy gefnogi ynni o ffynonellau adnewyddadwy, fel ynni gwynt ac ynni’r haul, sy’n cysylltu â’r system. Mae’n darparu trydan pan fydd llai o ynni adnewyddadwy ar gael oherwydd y tywydd.
Bydd Gorsaf Bŵer Dinorwig yn dal wedi’i chysylltu â’r rhwydwaith trydan tra bydd y ceblau newydd yn cael eu gosod, ac felly bydd rhaid i ni gael llwybr gwahanol ar gyfer dau o’r ceblau newydd. Rydym yn cadw’r cysylltiad newydd o dan y ddaear ac felly bydd yr ardal yn dal i edrych fel y mae yn awr.
Deallwn fod gan bobl ddiddordeb yn y gwaith a byddwn yn cadw mewn cysylltiad â phobl wrth i’n gwaith symud ymlaen.
Map o’r prosiect
Rydym wedi creu map ar-lein sy’n dangos i chi ble yr ydym yn gweithio a pha waith yr ydym yn ei wneud.
Cewch wybod hefyd pryd y bydd prif gamau ein gwaith yn digwydd.
Byddwn yn diweddaru’r map fel y bydd yn adlewyrchu rhaglen ddiweddaraf y prosiect.
Cliciwch yma i lansio’r map
Y newyddion diweddaraf
Dechreuwyd ar ein gwaith yn hydref 2021, gan ddechrau yn ein his-orsaf ym Mhentir. Ym mis Ionawr 2022, dechreuwyd gweithio ar yr A4086 yn Llanberis i osod y dwythellau a fydd yn dal ein ceblau newydd. Rydym yn parhau â’r gwaith hwn gan symud tua’r gorllewin ar hyd yr A4086 a defnyddio goleuadau traffig dros dro i gadw’r ffordd yn agored, y traffig yn symud a’n timau ni’n ddiogel.
Fel rhan o’r gwaith, bydd angen i ni gau pen uchaf Stryd Fawr Llanberis lle mae’n cyfarfod â’r A4086, a hynny am ryw bythefnos. Disgwyliwn y bydd y gwaith hwn yn digwydd yng ngwanwyn 2022 ac ni fydd yn amharu ar lif y traffig ar yr A4086. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn newid cwrs traffig a llwybrau troed, a nodir yn glir ffordd arall i fynd.
Yn ogystal, byddwn yn dechrau gweithio ar yr A4244 yn y gwanwyn eleni. Rhwng Brynrefail ac Is-orsaf Pentir sydd ar y B4547 fydd hyn.
Pan fyddwn yn gweithio ar y priffyrdd, mae dau dîm yn cloddio ffosydd fesul darn, er mwyn creu cyn lleied o drafferth ag y bo modd i ddefnyddwyr y ffyrdd. Rydym yn gosod dwythellau a bydd y ceblau newydd yn cael eu rhoi trwyddynt yn nes ymlaen yn y prosiect. Mae ein timau’n symud ymlaen ar hyd y ffyrdd wrth iddynt gwblhau pob darn, gan gynnwys ail-lenwi’r ffosydd a rhoi wyneb newydd ar y lôn gerbyd. Mae’r ffosydd yn y briffordd gan fwyaf ond rydym yn osgoi’r gylchfan newydd ger Brynrefail a Chwm-y-glo fel na fydd angen cloddio yno. Fel rheol, byddwn yn gweithio o ddydd Llun tan ddydd Gwener, rhwng 7:30am a 5:00pm. Fodd bynnag, efallai y bydd raid i ni weithio’n hwyrach gyda’r nos neu ar benwythnosau weithiau.
Sylwch: Fel sy’n wir am bob gwaith o’r math hwn, gall tywydd drwg a ffactorau eraill olygu bod yr amseru’n newid weithiau.
Os hoffech wybod rhagor am ein gwaith, darllenwch ein dogfen Cwestiynau Cyffredin lle rydym wedi ateb y cwestiynau a ofynnir i ni amlaf. Mae hon yn yr adran Dogfennau isod, ynghyd â’r cylchlythyr diweddaraf am y prosiect, a anfonwyd at bobl yr ardal ym mis Mawrth 2022.
Byddwn yn dal i gadw mewn cysylltiad â phobl yr ardal ac i ddiweddaru’r dudalen hon wrth i’r prosiect symud ymlaen.
Y Rhaglen Grantiau Cymunedol
Bob blwyddyn, mae National Grid yn rhoi grantiau cymunedol i elusennau a mudiadau nid-er-elw.
Rydym yn ariannu pob math o brosiectau sy’n cael eu rhedeg gan elusennau a grwpiau cymunedol ac sy’n cynnig llu o fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mewn ardaloedd lle mae gwaith National Grid yn effeithio ar y trigolion. Gallai grwpiau a mudiadau yn ardal y prosiect hwn fod yn gymwys i gael grant. Gallai prosiect llwyddiannus gael grant o hyd at £20,000.
Mae'r broses ymgeisio’n cynnwys cyflwyno cais a gaiff ei ystyried gan National Grid.
Os hoffech wybod mwy, a dysgu am y broses ymgeisio a’r meini prawf ar gyfer bod yn gymwys, ewch i: https://www.nationalgrid.com/responsibility/community/community-grant-programme.