Garth Sealing End Compound in Wales - National Grid's Snowdonia VIP project
Ymgynghori ar gyfyngu mynediad i ffordd

5 Awst 2022: Rydyn ni'n cysylltu â thrigolion lleol sy'n byw ar Ffordd y Chwarel ym Minffordd, ac o’i gwmpas,
am ein cynlluniau rheoli traffig arfaethedig ar gyfer prosiect VIP Eryri.

Fel y gwyddoch o bosib, nod y prosiect yw trawsnewid y dirwedd leol drwy dynnu ein llinell uwchben ar draws Aber Afon Dwyryd rhwng Minffordd a Llandecwyn a’i ddisodli gyda cheblau mewn twnnel yn ddwfn o dan ddaear.

Hoffem gasglu eich barn ar ein cynlluniau i reoli traffig yn yr ardal yn ystod yr adeiladu er mwyn sicrhau diogelwch pawb ac i leihau’r effaith ar breswylwyr lleol.

Rheoli priffyrdd

Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau’n llawn y flwyddyn nesaf pan fyddwn wedi sefydlu un o brif gompowndiau adeiladu’r prosiect ar dir gerllaw’r ffordd gefn i Finffordd wrth ymyl Ffordd y Chwarel ym Minffordd (a welir ar y cynllun amgaeedig).

Sicrhau iechyd a diogelwch ein tîm a’r cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth bob amser, felly cyn sefydlu’r compownd adeiladu, byddwn yn gosod mesurau rheoli traffig.

Fel y nodwyd yn y dogfennau a rannwyd cyn i ni gyflwyno ein cais cynllunio, bydd traffig adeiladu yn cael mynediad i'r safle o gylchfan Minffordd ar yr A487. Yna bydd yn teithio ar hyd y Stryd Fawr (A497), yn parhau heibio i dop Ffordd y Chwarel, cyn cymryd y troad nesaf i’r dde i lawr y ffordd gefn i Finffordd i gyrraedd y compownd adeiladu. Wrth adael y compownd adeiladu, bydd traffig adeiladu yn troi i’r dde wrth adael y safle, gan sicrhau nad oes unrhyw draffig adeiladu yn defnyddio Ffordd y Chwarel.

Cyflwyno mesurau diogelwch

O ystyried y bydd cynnydd mewn traffig ar hyd y ffordd gefn, rydym yn bwriadu cyflwyno nifer o fesurau posibl i wella diogelwch drwy leihau’r rhyngweithio rhwng traffig adeiladu a defnyddwyr eraill y ffordd:

  • Rydyn ni’n bwriadu cyfyngu mynediad ar hyd y ffordd gefn i Finffordd, o gyffordd yr A497 i’n compownd adeiladu. Byddai hyn yn cadw mynediad i drigolion lleol, unrhyw ymwelwyr neu nwyddau i’w cludo i'w heiddo ac i gerbydau brys ond byddai'n cyfyngu mynediad i unrhyw draffig trwodd arall.  
  • Ni fyddai mynediad i Ffordd y Chwarel a’r adeiladu cyfagos yn cael eu heffeithio gan draffig sy’n dod o’r dwyrain.
  • Byddai'r ffordd gyfyngedig yn cael ei rheoli yn y rhannau cul gan oleuadau traffig neu ei rheoli â llaw. Byddai marsialiaid traffig a chaban lles yn cael eu gosod yng nghyffordd yr A497 neu gerllaw.
  • Byddai signalau traffig tair-ffordd rhan amser yn gweithredu yn ôl yr angen ar gyffordd yr A497 i gynorthwyo i symud lorïau i mewn ac allan o’r ffordd gefn, a byddai rhan o’r terfyn cyflymder 40mya presennol ar yr A497 yn cael ei leihau i 20mya.
  • Byddai terfyn cyflymder cynghorol o 20mya hefyd ar waith rhwng y gyffordd hon a’r compownd adeiladu, ac yn amodol ar ymgynghoriad â’r sefydliadau perthnasol, fel Cyngor Tref Penrhyndeudraeth, rydyn ni’n argymell cau y fynedfa gefn i gerddwyr i fynwent Minffordd nes bod ein gwaith adeiladu wedi’i gwblhau. Bydd y fynwent ei hun yn parhau’n agored.
  • Rydyn ni’n cydlynu â Chyngor Gwynedd a Sustrans hefyd ynglŷn â dargyfeirio beicwyr sy’n defnyddio Llwybr Seiclo Cenedlaethol (NCR) 8, sydd ar hyn o bryd yn mynd ar hyd y ffordd gefn. Er ein bod wedi edrych ar fesurau i gadw’r llwybr hwn ar agor, mae ein gwaith cychwynnol yn dangos mai’r opsiwn mwyaf diogel fyddai i feicwyr ddefnyddio’r A497 a’r A487 rhwng Teras Britannia ym Minffordd a Phenrhyndeudraeth, gan
    ail-ymuno â’r NCR8 yn y mannau hyn.

Casglu eich barn: dweud eich dweud

Rydyn ni eisiau clywed eich barn am ein cynlluniau rheoli traffig, sy'n anelu at darfu cyn lleied â phosib arnoch tra'n caniatáu i ni drawsnewid y dirwedd ddramatig hon mor ddiogel ac mor effeithlon â phosibl. Gallwch weld manylion llawn ein cynlluniau yn amgaeedig er mwyn i chi allu bwrw golwg arnyn nhw.

Rydyn ni hefyd wrthi’n trafod gyda chynghorwyr lleol Gwynedd, y tîm priffyrdd yng Nghyngor Gwynedd a Chyngor Tref Penrhyndeudraeth ynglŷn â’r cynigion hyn, a fydd yn ofynnol ar gyfer y gwaith adeiladu o tua mis Tachwedd 2022 (pan fyddwn yn dechrau sefydlu'r broses o reoli traffig) tan fis Rhagfyr 2026. Ar ôl Rhagfyr 2026, bydd angen cyfnod byrrach o waith i gael gwared ar y peilonau, ac wrth i’n cynlluniau ar gyfer y gwaith hwn ddatblygu, fe fyddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

I ddweud eich dweud, cysylltwch â thîm y prosiect VIP yn uniongyrchol drwy ffonio
0800 019 1898 neu drwy e-bostio
[email protected]. Gallwch hefyd ddefnyddio'r manylion hyn os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon eraill am y project. Anfonwch unrhyw sylwadau erbyn 31 Awst 2022.