Country road between fields leading up to small village
Y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith rheoli cynefinoedd

20 Awst 2022: Fe wnaethom ysgrifennu atoch yn gynnar fis diwethaf i roi gwybod i chi am rywfaint o waith clirio llystyfiant y byddai ein hecolegwyr yn ei wneud yn Llandecwyn a Thalsarnau fel rhan o baratoadau safle ar gyfer prosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP) y National Grid yn Eryri.

Bydd 10 peilon a thua 3 km o’r llinell uwchben bresennol ar draws Aber Afon Dwyryd yn cael eu tynnu a bydd ceblau tanddaearol yn cael eu gosod yn eu lle.

Byddwch wedi clywed ein bod wedi bod yn strimio’r ardal yn ddiweddar. Fodd bynnag, mae rhywfaint o’r llystyfiant wedi aeddfedu’n sylweddol ac ar ôl iddo gael ei dorri i lawr, bydd angen defnyddio peiriant malu coed i’w dorri i lawr yn fân cyn y gellir ei gludo o’r safle.

Dim ond am gyfnodau ysbeidiol y bydd y peiriant torri coed yn cael ei ddefnyddio, ac ni fydd yn cynhyrchu sŵn cyson. Rydyn ni hefyd wedi sicrhau y bydd rhywfaint o sgrinio yn cael ei leoli ochr yn ochr â’r peiriant er mwyn lleihau sŵn i drigolion sy’n byw gerllaw.

Unwaith y bydd y pren wedi’i dorri, rydyn ni’n disgwyl y bydd cyfran fawr o’r naddion coed yn cael eu hailddefnyddio ar y safle fel tomwellt. Bydd y gweddill yn cael eu cludo o’r safle mewn tryciau, ac rydyn ni’n amcangyfrif y bydd hyn yn golygu cynnydd bychan o chwech i wyth o symudiadau cerbydau ychwanegol yn ôl ac ymlaen i’r safle.

Bydd y gwaith yn dechrau’n fuan ac yn digwydd rhwng 8.00am a 4.00pm yn ystod yr wythnos yn unig. Dylid cwblhau’r cam hwn o’r gwaith, gan gynnwys codi ffensys ymlusgiaid, erbyn canol mis Medi, yn gynt gobeithio.

Ymddiheurwn am unrhyw anhwylustod y gall y newid bychan hwn i’n trefniadau gweithio ei achosi. Mae’r gwaith wedi cael ei drafod yn fanwl ac wedi cael ei gymeradwyo gan gynllunwyr ac ecolegydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri cyn i’r gwaith ddechrau. Rydyn ni hefyd wedi cael caniatâd y tirfeddianwyr perthnasol lle bo angen.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y prosiect neu am y gwaith sy’n cael ei wneud, mae croeso i chi gysylltu â thîm y prosiect VIP yn uniongyrchol drwy ffonio 0800 019 1898 neu drwy anfon e-bost atom yn [email protected].