Tîm VIP Eryri yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor i ddysgu Cymraeg
  • Mae aelodau tîm VIP Eryri o National Grid a’i gontractwr penodedig, Hochtief UK, wedi bod yn dysgu Cymraeg drwy’r ganolfan Dysgu Cymraeg.
  • Trefnir y gwersi drwy Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin ym Mhrifysgol Bangor.
  • Ariennir y cynllun drwy Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg.

Mae prosiect VIP Eryri y National Grid yn dangos ei ymrwymiad i’r gymuned a’r diwylliant lleol yng Ngogledd Cymru drwy annog y rhai sy’n gweithio ar y prosiect i ddysgu Cymraeg.

Dechreuodd staff y National Grid yn ogystal â staff Hochtief UK, y contractwr penodedig ar brosiect VIP Eryri, wersi Cymraeg ym mis Medi 2022. Mae 11 o weithwyr yn cymryd rhan yn y dosbarthiadau ar hyn o bryd, sy’n ychwanegu at y saith aelod o’r tîm sydd eisoes yn siaradwyr Cymraeg rhugl, gyda llawer ohonynt yn byw’n lleol.

Mae'r gwersi’n cael eu trefnu drwy Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin ym Mhrifysgol Bangor; maen nhw’n cael eu cynnig yn rhad ac am ddim ac yn cael eu hariannu drwy Lwyodraeth Cymru, sy’n rhedeg y cynllun i gefnogi busnesau i hyrwyddo’r Gymraeg.

Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin yn darparu cyrsiau Cymraeg ar bob lefel yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n gyfrifol am bob agwedd ar y sector Dysgu Cymraeg – o’r cwricwlwm ac adnoddau i diwtoriaid, i ymchwil, marchnata, cyfathrebu ac e-ddysgu.

Dywedodd Dr Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr, Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin:

“Mae National Grid a Hochtief UK yn ddwy enghraifft wych o gwmnïau sy’n dangos eu hymrwymiad i barchu gwead cymdeithasol a diwylliannol yr ardaloedd maen nhw’n gweithio ynddynt.

“Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae ein tiwtoriaid yn gallu gweithio gyda’r sector preifat i gynnig cymorth wedi’i deilwra fel bod staff yn gallu dysgu Cymraeg yn eu hamgylchedd eu hunain.

“Mae tîm VIP Eryri wedi bod yn dysgu ers mis Medi ac wedi gwneud cynnydd anhygoel yn barod. Mae’r dysgwyr yn dweud wrthym eu bod yn gallu sgwrsio gyda mwy o hyder wrth weithio a chymdeithasu yn y gymuned.”

Dywedodd Steve Ellison, Uwch-reolwr Prosiect y National Grid ar gyfer VIP Eryri:

“Nod y prosiect Darpariaeth Effeithiau Gweledol ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw lleihau effaith weledol llinell uwchben y National Grid ar draws Aber Afon Dwyryd.

“Mae rhanddeiliaid wedi bod wrth galon y prosiect drwy gydol y broses, ac mae’r cynllun wedi cael ei ddylunio a’i fireinio gyda chyngor arbenigwyr lleol a chynrychiolwyr cymunedol.

“Parchu'r diwylliant lleol lle bynnag rydyn ni’n gweithio ydy un o’n gwerthoedd craidd, ac mae cynnig dosbarthiadau Cymraeg i’n tîm prosiect yn rhan bwysig o hynny. Rydyn ni’n ddiolchgar i Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin sydd wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi gwneud y dosbarthiadau’n ymarferol, yn hawdd mynd atynt ac yn llawer o hwyl i’n tîm.”