A pylon in the Dwyryd Estuary in Snowdonia National Park
Prosiect tynnu peilonau Eryri ar gychwyn
  • Mae’r National Grid a Hochtief UK yn paratoi’r safle adeiladu ar gyfer prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, a bydd y gwaith adeiladu’n dechrau’n llawn yn 2023.
  • Bydd Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn gweld deg peilon a dros 3km o linell drydan uwchben yn cael eu tynnu o bob rhan o Aber Afon Dwyryd.
  • Lluniwyd y prosiect i wella’r ardal brydferth a phoblogaidd ar gyfer y bobl leol a’r ymwelwyr.

Mae gwaith wedi dechrau o ddifrif ar brif brosiect gwella tirwedd y National Grid i drawsnewid golygfeydd ar draws Aber Afon Dwyryd, drwy dynnu deg peilon a darn dros 3km o linell drydan uwchben.

Bydd y prosiect yn gofyn am waith peirianyddol mawr, gyda’r National Grid yn gweithio gyda’r prif gontractwr, Hochtief UK, i adeiladu twnnel newydd o dan yr aber i osod ceblau. Bydd y tîm hefyd yn adeiladu dau dŷ pen twnnel ar wahân yn Garth a Llandecwyn, sydd wedi’u dylunio i ategu’r dirwedd leol.

Gydag arweiniad arbenigol gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, mae’r tîm wedi dechrau rhaglen gynhwysfawr o waith arolygu archaeolegol yn Garth yn ddiweddar. Mae hyn yn rhan o’r gwaith o sefydlu’r safle adeiladu ger tir presennol National Grid.

Mae arolygon ecolegol a gwaith rheoli cynefinoedd eisoes wedi cael eu cynnal dros yr haf ar ochr arall yr aber yn Llandecwyn, dan arweiniad cwmni Atmos Consulting yn yr Wyddgrug. Mae hyn yn cynnwys clirio llystyfiant, gosod ffensys terfyn, a chreu ‘cuddfan’ i helpu i ddal ymlusgiaid o’r safle a’u symud yn ddiogel.

Ar ôl cwblhau’r gwaith cychwynnol hwn ar y safle, bydd y rhaglen waith yn parhau yn 2023 gyda suddo’r siafftiau, adeiladu’r twnnel, adeiladu’r tai bob pen, gosod y ceblau a chomisiynu. Disgwylir y bydd y peilonau’n cael eu clirio wedyn yn 2029.

Dywedodd Steve Ellison, uwch reolwr prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri y National Grid: “Mae’r prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn unigryw. Mae’n un o’r prosiectau cyntaf yn y byd i gael gwared ar y seilwaith trawsyrru trydan foltedd uchel presennol dim ond i wella’r dirwedd. Gyda’r prosiect ar fin cymryd sawl blwyddyn i’w gwblhau, rydyn ni’n canolbwyntio’n llwyr ar weithio gyda Hochtief UK i wneud pethau’n iawn.”

“Mae heriau peirianneg y prosiect yn gofyn am lawer o wahanol sgiliau arbenigol i’w gyflwyno’n llwyddiannus, gan gynnwys adeiladu twnnel yn ddwfn o dan Aber Afon Dwyryd i gartrefu’r ceblau tanddaearol newydd. Mae’r gwaith paratoi safle rydyn ni’n ei wneud nawr yn allweddol i osod sylfeini pwysig ar gyfer y prosiect.”

Dywedodd Jonathan Cawley, cyfarwyddwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Mae tirwedd gymhleth a dramatig Eryri yma yn cysylltu arfordir twristaidd poblogaidd y Parc Cenedlaethol a’r bryniau gerllaw.

“Mae hwn yn brosiect eithriadol o bwysig, a fydd yn gwella ac yn gwarchod y dirwedd arbennig hon. Bydd cael gweithwyr ychwanegol yn yr ardal am ryw saith mlynedd hefyd yn hwb i’n busnesau lleol.”

Mae rhanddeiliaid wedi bod wrth galon y prosiect drwy gydol y broses, ac mae’r cynllun wedi cael ei ddylunio a’i fireinio gyda chyngor arbenigwyr lleol a chynrychiolwyr cymunedol.

Bydd y National Grid yn cwrdd yn rheolaidd â Grŵp Cyswllt Cymunedol drwy gydol y gwaith adeiladu, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd, Cyngor Tref Penrhyndeudraeth, Cynghorau Cymuned Talsarnau a Maentwrog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a mwy. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp ym mis Mehefin.

Ychwanegodd Steve Ellison: “Wrth i ni sefydlu presenoldeb yn yr ardal dros y blynyddoedd nesaf, mae cefnogi’r gymuned leol wrth galon ein cynlluniau. Mae grwpiau fel Clwb Pêl-droed Penrhyndeudraeth eisoes yn elwa o gyllid drwy Raglen Grantiau Cymunedol y National Grid – sydd â’r nod o gefnogi prosiectau gwych sydd o fudd i bobl leol.”

Mae Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yn un o nifer o brosiectau National Grid yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys gwaith i atgyfnerthu’r rhwydwaith trydan rhwng Dinorwig a Phentir ac yn Glaslyn.

Mae gwybodaeth am Raglen Grantiau Cymunedol y National Grid a sut mae gwneud cais ar gael yn nationalgrid.com/responsibility/community/community-grant-programme