Community Grant Fund recipients from Porthmadog Junior Football Club
Pêl-droedwyr iau yn goleuo’r cae gyda gwobr grant cymunedol y National Grid
  • Tîm Iau Porthmadog yn derbyn bron i £10,000 gan y National Grid ar gyfer atgyweirio’r cae a goleuo symudol
  • Roedd y cae yn llawn pryfed teiliwr, gan ei gwneud bron yn amhosibl i aelodau hyfforddi
  • Bydd goleuadau newydd yn rhoi hwb i hyfforddiant ac yn lleihau costau llogi’r clwb llawr gwlad 130 aelod, sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr

Mae Clwb Pêl Droed Iau Porthmadog yn dathlu’r newyddion ei fod wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais am gyllid gan Raglen Grantiau Cymunedol y National Grid.

Anelir y Rhaglen Grantiau Cymunedol at elusennau a mudiadau cymunedol mewn ardaloedd lle mae gwaith Trosglwyddiad Trydan y National Grid yn effeithio ar bobl leol drwy ei weithrediadau a gweithgareddau ar y safle.

Mae’r Rhaglen yn ariannu prosiectau sy’n cael eu rhedeg gan elusennau a grwpiau cymunedol sy’n diwallu anghenion y gymuned leol drwy ddarparu amrywiaeth o fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Gyda phrosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri (VIP) y National Grid yn prysuro yn ardal Penrhyndeudraeth, gwnaeth Clwb Pêl-droed Iau Porthmadog gais am arian tuag at brynu goleuadau LED cludadwy a hefyd i atgyweirio eu cae.

Eglurodd Elfyn Pugh, Ysgrifennydd a Phrif Hyfforddwr Clwb Pêl Droed Iau Porthmadog: “Rydyn ni’n glwb iau ar lawr gwlad sy’n cynnwys 130 o aelodau rhwng 6 ac 16 oed, sy’n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr.

“Yn ystod yr haf, roedd pryfed teiliwr wedi dodwy wyau yn y cae rydyn ni’n ei ddefnyddio, ac mae moch daear, adar ac anifeiliaid eraill wedyn yn eu cloddio fel ffynhonnell o fwyd parod. Mae hyn wedi ei gwneud yn anodd i’r plant ymarfer a chwarae, felly fe wnaethom gais am grant i drin ac ail-hau’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.

“Rydyn ni hefyd wedi bod yn cael trafferth heb ein goleuadau ein hunain. Rydyn ni wedi gorfod talu i ddefnyddio’r goleuadau halogen o gae AstroTurf gerllaw i oleuo ein mannau ymarfer neu i logi caeau eraill gyda goleuadau gwell. Bydd grant y National Grid yn caniatáu i ni brynu 12 golau LED cludadwy ar gyfer ein hardal ymarfer.

“Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth mor fawr: mae’n golygu y gallwn ymestyn ein hamseroedd hyfforddi, gan annog pobl ifanc i fod yn weithgar am fwy o amser dros fisoedd y gaeaf. Yn y pen draw, ein pwrpas yw cael pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff, er mwyn iddynt allu manteisio i’r eithaf ar yr holl fanteision iechyd corfforol a meddyliol cysylltiedig. Dyna pam ein bod mor ddiolchgar i’r National Grid am y grant yma.”

Dywedodd Steve Ellison, Uwch-reolwr Prosiect y National Grid ar gyfer VIP Eryri“Rydyn ni’n falch iawn bod cyllid o’n Rhaglen Grantiau Cymunedol, sydd wedi cael ei gynllunio’n arbennig i ariannu prosiectau mewn cymunedau sy’n cael eu heffeithio gan ein gweithrediadau, wedi cael eu dyrannu i achos mor wych.

“Rydyn ni’n dymuno’r gorau i Glwb Pêl-droed Iau Porthmadog gyda’u cae wedi’i drwsio a’u goleuadau newydd.”

Nod y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw lleihau effaith weledol llinell uwchben y National Grid ar draws Aber Afon Dwyryd. Mae hyn yn golygu tynnu tua 3km o linell uwchben, gan gynnwys deg peilon, ac adeiladu twnnel o dan yr aber.

Mae rhagor o wybodaeth am Raglen Grantiau Cymunedol y National Grid ar gael yn: https://www.nationalgrid.com/responsibility/community/community-grant-programme