Neuadd gymunedol yn edrych yn dda gyda gwobr grant cymunedol y National Grid
  • Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth yn derbyn dros £10,000 gan y National Grid ar gyfer atgyweirio ac adnewyddu adeilad
  • Roedd cwteri metel wedi cracio a mannau o leithder wedi arwain at bryderon y gallai’r adeilad cymunedol poblogaidd ddirywio’n gyflym
  • Bydd y gwaith ail-wampio yn gwella cyflwr y neuadd ac yn sicrhau y gall barhau i wasanaethu’r gymuned leol

Mae Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth yn dathlu’r newyddion ei bod wedi bod yn llwyddiannus yn ei chais am gyllid gan Raglen Grantiau Cymunedol y National Grid.

Anelir y Rhaglen Grantiau Cymunedol at elusennau a mudiadau cymunedol mewn ardaloedd lle mae gwaith Trosglwyddiad Trydan y National Grid yn effeithio ar bobl leol drwy ei weithrediadau a gweithgareddau ar y safle.

Mae’r Rhaglen yn ariannu prosiectau sy’n cael eu rhedeg gan elusennau a grwpiau cymunedol sy’n diwallu anghenion y gymuned leol drwy ddarparu amrywiaeth o fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Gyda phrosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri (VIP) y National Grid yn prysur symud yn ei flaen yn ardal Penrhyndeudraeth a’r neuadd yn cael ei defnyddio’n rheolaidd gan dîm VIP Eryri ar gyfer cyfarfodydd cymunedol, gwnaeth Pwyllgor y Neuadd Goffa gais am gyllid i osod cwteri metel newydd, addurno anecs a chegin a gosod gorchuddion llawr newydd mewn pedair ystafell.

Eglurodd y Cyng. Meryl Roberts, aelod Cyngor Gwynedd ar gyfer Penrhyndeudraeth ac aelod o Bwyllgor y Neuadd Goffa:

“Rydym wedi bod yn elusen gofrestredig ers 1977 ac rydym yn rheoli ac yn cynnal Adeilad y Neuadd Goffa ar gyfer y gymuned.  Mae’r Neuadd yn rhan annatod o fywyd Penrhyndeudraeth ac mae amrywiaeth o sefydliadau gwahanol yn mwynhau ei chyfleusterau bob dydd, gan gynnwys yr ysgol leol, gan mai dyma’r unig adeilad cymunedol yn y dref. Fe’i defnyddir hefyd yn yr haf i gynnal gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu.

“Cafodd y Neuadd ei hadeiladu yn 1925 ac mae’n coffáu pobl leol a gollwyd yn y ddau Ryfel Byd. Dros y cyfnod hwnnw, mae traul naturiol wedi achosi difrod i’r cwteri metel gwreiddiol sydd wedi arwain at leithder yn dechrau ymddangos y tu mewn i’r adeilad. Ein pryder mwyaf oedd bod y strwythur yn dechrau dirywio ac na fyddem, yn y pen draw, yn gallu gwasanaethu’r gymuned mwyach.

“Y gobaith nawr yw y gallwn gynnal ein rhwydwaith cefnogi i amrywiaeth eang o bobl leol gyda’r gwaith atgyweirio hwn, a pharhau i hyrwyddo iechyd a lles trigolion Penrhyndeudraeth am lawer mwy o genedlaethau. Rydyn ni mor ddiolchgar i’r National Grid am y grant hwn a’u haelioni.”

Dywedodd Steve Ellison, Uwch-reolwr Prosiect y National Grid ar gyfer VIP Eryri:

“Rydyn ni’n falch iawn bod arian o’n Rhaglen Grantiau Cymunedol yn mynd i fod yn rhan mor annatod o’r dref a’r ardal gyfagos.

“Mae tîm VIP Eryri yn defnyddio’r neuadd yn rheolaidd ar gyfer cyfarfodydd gyda phobl leol ac rwy’n gwybod am y rôl amhrisiadwy mae’r neuadd yn ei chwarae o ran cefnogi aelodau anodd eu cyrraedd ac agored i niwed yn y gymuned.”

Nod y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw lleihau effaith weledol llinell uwchben y National Grid ar draws Aber Afon Dwyryd. Mae hyn yn golygu tynnu tua 3km o linell uwchben, gan gynnwys deg peilon, ac adeiladu twnnel o dan yr aber.

Mae rhagor o wybodaeth am Raglen Grantiau Cymunedol y National Grid ar gael yn https://www.nationalgrid.com/responsibility/community/community-grant-programme.