Penrhyndeudraeth FC committee member Barry Evans with Steve Ellison, National Grid's senior project manager for its Snowdonia VIP project
CPD Penrhyndeudraeth yn diogelu eu cae gyda grant Cymunedol National Grid
  • Clwb pêl droed cymunedol yn cael £20,000 gan National Grid tuag at fesurau diogelwch newydd
  • Bydd bron 250m o ffensys panel newydd yn cael eu gosod o amgylch y cae
  • Bydd y prosiect yn gwella diogelwch i’r 100 a mwy o chwaraewyr sydd ar lyfrau CPD Penrhyndeudraeth

Dyfarnwyd grant o £20,000 i Glwb Pêl Droed Penrhyndeudraeth gan Raglen Grantiau Cymunedol National Grid a fydd yn cael ei ddefnyddio i gadw chwaraewyr a chefnogwyr yn ddiogel ar ac o gwmpas y cae.

Mae ffos yn ymestyn ar hyd prif gae chwarae’r clwb pêl droed i helpu i’w ddraenio yn ystod glaw trwm; fodd bynnag, mae aelodau’r clwb wedi mynegi pryderon y gallai chwaraewyr y timau iau fod mewn perygl yn ystod y gaeaf, felly aethpwyd ati i edrych ar gynlluniau i osod ffens newydd i wella diogelwch y cae.

Pan glywodd aelod o bwyllgor Barry Evans am brosiect National Grid i wella’r dirwedd yn yr ardal, cysylltodd â hwy i weld a allent helpu.

Mae National Grid ar fin dechrau adeiladu prosiect Darpariaeth Effeithiau Gweledol (VIP) Eryri, sy’n ceisio lleihau effaith weledol eu llinell uwchben ar draws Aber Afon Dwyryd o Benrhyndeudraeth i Gilfor. Mae eu Rhaglen Grantiau Cymunedol yn helpu mudiadau cymunedol ac elusennau mewn ardaloedd lle mae eu gwaith yn effeithio ar bobl leol drwy weithgarwch a gwaith ar safleoedd.

Ar ôl cyflwyno cais llwyddiannus, cafodd y cyllid ei gadarnhau’r mis yma a bydd yn cael ei ddefnyddio i godi ffens paneli gwifren ddwbl newydd bron i 250m o hyd.

Meddai Barry Evans, “Mae diogelwch pawb sy’n ymweld â’r cae yn holl bwysig. Mae’r grant hwn gan Raglen Gymunedol National Grid yn golygu y gallwn ofalu am ein chwaraewyr o bob grŵp oedran gan gynnwys ein timau iau a hŷn, a gallwn hefyd barhau i gynnig cyfleoedd i’r gymuned leol i chwarae, i gynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan, ac i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau.”

Ychwanegodd Steve Ellison, uwch rheolwr prosiect VIP Eryri, “Drwy’r Rhaglen Grantiau Cymunedol rydym yn gwneud ymdrech i gefnogi sefydliadau ac achosion sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y cymunedau lle rydym yn gweithio. Mae CPD Penrhyndeudraeth yn un bwysig i’r ardal drwy ddod â phobl at ei gilydd i gael ymarfer corff ac i fwynhau eu hunain. Rwyf yn edrych ymlaen at weld y chwaraewyr a’r cefnogwyr yn elwa ar yr arian hwn.

Sefydlwyd CPD Penrhyndeudraeth yn 1981 ac mae dros 100 o chwaraewyr, rhwng 6 a 30 oed a hŷn wedi’u cofrestru â’r clwb ar hyn o bryd. Mae ganddo gynlluniau uchelgeisiol i fod yn ganolfan i’r gymuned leol yn y dyfodol, ac i wella’r cyfleusterau ymhellach. Mae gan CPD Penrhyndeudraeth brydles dymor hir ar y cae, sy’n eiddo i’r cyngor lleol. Mae’r cae’n cael ei ddefnyddio hyd at bum niwrnod yr wythnos ar gyfer ymarfer a chwarae gemau, ond mae hefyd ar gael i glybiau pêl droed lleol eraill, yn ogystal â mudiadau cymunedol ac ysgolion yn y dalgylch.

Mae rhagor o wybodaeth gan Raglen Grantiau Cymunedol National Grid – gan gynnwys meini prawf cymhwystra a sut i wneud cais – ar gael yn www.nationalgrid.com/responsibility/community/community-grant-programme