Llandecwyn 10k yn cael hwb trydanol

Ym mis Mehefin eleni, cefnogodd prosiect VIP Eryri y National Grid a'i brif gontractwr, Hochtief UK, ras 10k boblogaidd Llandecwyn sy'n dechrau ac yn gorffen wrth ymyl safle dwyreiniol y prosiect.

Rhedodd Uwch Reolwr Prosiect y National Grid, Steve Ellison, yn y ras am yr ail flwyddyn yn olynol ac fe wnaeth Hochtief UK ddarparu marsialiaid gwirfoddol ar gyfer y cwrs sydd ag enw eithriadol o dda fel yr un mwyaf serth ac yn un o'r rhai mwyaf heriol yng Nghymru.

Helpodd y tîm i troi trefn ar y safle fel y gallai cyfranogwyr a threfnwyr ddefnyddio'r cyfleusterau ar y safle yn ogystal â noddi'r tlysau. Roedd contractwyr peirianneg sifil lleol, Jennings hefyd wrth law i sicrhau bod yr ardal yn ddiogel i'r cyhoedd ei defnyddio.

Mae'r Grid Cenedlaethol wedi ymrwymo i gefnogi a buddsoddi mewn cymunedau lleol drwy noddi digwyddiadau lleol fel digwyddiad ras 10k Llandecwyn. Os ydych yn grŵp, yn sefydliad neu yn elusen leol sy'n cynnal digwyddiad, cysylltwch â ni gan y byddem wrth ein bodd yn cymryd rhan mewn mwy o ddigwyddiadau cymunedol lleol os gallwn ni.

Cysylltwch â'n tîm cysylltiadau cymunedol drwy anfon e-bost atom yn [email protected] neu ffonio 0800 019 1898.