Close-up of electricity transmission tower in hilly landscape in Snowdonia, Wales
Hochtief yn cyhoeddi ymgynghoriad a digwyddiad cyhoeddus: Dewch i roi eich barn

Ar 19 Mai 2023, caiff ymgynghoriad cyn ymgeisio ei lansio gan ein prif gontractwr Hochtief UK (Hochtief) ar gyfer llety gweithwyr dros dro ym Mlaen Cefn, Penrhyndeudraeth.

Y llynedd fe wnaethom ddechrau gwaith cynnar ar y prosiect a fydd, unwaith y bydd wedi’i gwblhau, yn gweld deg o beilonau a thua 3km o linell uwchben yn cael eu tynnu’n barhaol o Aber Afon Dwyryd.

Rydym wedi cynyddu ein gweithgarwch ar safleoedd Garth a Llandecwyn ers dechrau 2023 ac yn edrych ymlaen at ddechrau adeiladu’r siafftiau a fydd yn arwain at y twnnel newydd a fydd yn dal ein ceblau tanddaearol.

Bydd dyfodiad y peiriant tyllu twnnel (TBM) yn gynnar yn 2024 yn garreg filltir gyffrous i'n prosiect. Mae gweithredu'r TBM yn gofyn am sgiliau pwrpasol ac felly bydd Hochtief yn cyflogi staff arbenigol, medrus o'r tu allan i'r ardal leol dros dro i gyflawni'r rhan hollbwysig hon o'r cynllun.

Mae hyn yn ychwanegol at y bobl leol rydym yn eu cyflogi, a'r sgiliau a'r gwasanaethau rydym yn eu defnyddio fel rhan o'n cadwyn gyflenwi leol, fel y manylir yn ein Strategaeth Gweithlu Lleol.

Yn ystod cyfnod prysuraf ein gweithrediadau, rhwng 2024 a 2026, bydd tua 150-180 o bobl yn gweithio ar brosiect VIP Eryri mewn rolau amrywiol. Yn ystod y chwe mis diwethaf, mae Hochtief wedi bod yn gweithio ar geisio adnabod lleoliadau addas ar gyfer llety i bobl sy'n dod â'u sgiliau o'r tu allan i'r ardal. Maent wedi cynnal chwiliad manwl ac wedi ystyried nifer sylweddol o opsiynau yn ardaloedd Penrhyndeudraeth, Porthmadog ac ym Mlaenau, gyda llawer ohonynt wedi eu diystyru am amrywiaeth o wahanol resymau.

Yn dilyn chwilio cynhwysfawr, mae Hochtief wedi adnabod tir rhwng Maes Carafanau Blaen Cefn i’r gogledd a’r A487 i’r de, ar gyrion gogledd-ddwyreiniol Penrhyndeudraeth, fel y lleoliad gorau a mwyaf addas ar gyfer yr adeiladau dros dro hyn.

Bydd cais cynllunio llawn ar gyfer y datblygiad dros dro arfaethedig yn cael ei gyflwyno i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a, cyn ei gyflwyno, mae Hochtief, gyda chefnogaeth yr ymgynghorwyr cynllunio Cadnant Planning, yn cynnal cyfnod ymgynghori cyn ymgeisio sy’n para 28 diwrnod, gan ddechrau ar 19 Mai 2023.

Mae manylion llawn y cynigion, yr holl adroddiadau cysylltiedig a gwybodaeth am sut i ymateb ar gael ar dudalen we ymgynghori benodol Cadnant Planning: www.cadnantplanning.co.uk/blaen-cefn

Fel rhan o’r ymgynghoriad, bydd digwyddiad galw heibio cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Ngweithdy Minffordd, Minffordd, Penrhyndeudraeth, LL48 6HF ar 25 Mai 2023 rhwng 4.00pm a 7.00pm. Bydd cynrychiolwyr o Hochtief UK yn bresennol i drafod y cynigion ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. 

Byddem yn eich annog yn gryf i fynychu a rhoi eich barn, fel y gellir ei hystyried wrth i'r cynlluniau terfynol gael eu mireinio cyn eu cyflwyno. Bydd aelodau o dîm VIP Eryri hefyd yn bresennol i siarad am agweddau o'r prosiect yn fwy cyffredinol.

Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau’n ymwneud â’r cais cynllunio ar wefan yr ymgynghoriad. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynllun VIP Eryri yn gyffredinol, cysylltwch â’n tîm cysylltiadau cymunedol drwy anfon e-bost atom yn [email protected] neu ffonio 0800 019 1898.