Gwaith SPEN yn Llandecwyn

Rydym yn ymwybodol bod Scottish Power Energy Networks (SPEN) ar hyn o bryd yn gwneud gwaith y tu ôl i’n safle yn Llandecwyn, sydd wedi golygu bod angen cau rhan o hawl tramwy cyhoeddus Taith Ardudwy, yn ogystal â gwaith ar y briffordd ger mynedfa’r safle.

Mae hyn yn rhan o’u gweithgarwch parhaus i ddargyfeirio eu llinell uwchben sy’n rhedeg ar draws ein safle, a fydd yn ein galluogi i adeiladu ein siafft yn ddiogel. 

Fe’n cynghorir y dylai’r gwaith fod wedi’i gwblhau erbyn diwedd Ionawr. Cysylltwch â SPEN ar 0845 270 0783 neu drwy eu gwefan gydag unrhyw ymholiadau am y gwaith hwn.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r prosiect, cysylltwch â thîm y prosiect drwy anfon e-bost atom yn [email protected] neu ffonio 0800 018 1898 (a gadael neges os gofynnir am un – gwrandewir ar negeseuon yn aml a bydd aelod o’r tîm yn dychwelyd eich galwad).