Country road between fields leading up to small village
Gwaith rheoli cynefinoedd sydd ar y gweill

12 Gorffennaf 2022: Rydyn ni’n cysylltu â thrigolion lleol i roi gwybod i chi am rywfaint o waith ecolegol a rheoli cynefinoedd y bydd ecolegwyr arbenigol sy’n gweithio ar ran National Grid a Hochtief UK yn ei wneud o amgylch Llandecwyn a Thalsarnau yn ystod misoedd yr haf.

Rydyn ni’n cysylltu â thrigolion lleol i roi gwybod i chi am rywfaint o waith ecolegol a rheoli cynefinoedd y bydd ecolegwyr arbenigol sy’n gweithio ar ran National Grid a Hochtief UK yn ei wneud o amgylch Llandecwyn a Thalsarnau yn ystod misoedd yr haf.

Bydd y gwaith yn rhan o baratoadau safle ar gyfer prosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP) y National Grid yn Eryri, a fydd yn trawsnewid y dirwedd ar draws Aber Afon Dwyryd drwy ddisodli'r 10 peilon a'r 3km o wifrau trawsyrru trydan uwchben gyda chysylltiad mewn twnnel dwfn o dan yr aber.

Bydd ecolegwyr arbenigol o gwmni Atmos Consulting yn yr Wuddgrug a’u his-gontractwyr, sef Ecological Land Management, yn paratoi’r safle cyn adeiladu’r compownd ar gyfer siafft mynediad ddwyreiniol y twnnel.  Mae’r gwaith yn cael ei wneud i sicrhau nad oes fawr o effaith ar fywyd gwyllt yn yr ardal yn ystod ein gwaith adeiladu.   

Bydd y tîm Atmos yn dechrau drwy dynnu llystyfiant trwchus (gan gynnwys mieri a choed wedi’u hadu eu hunain) o’r safle dros yr haf, ar yr un pryd â chodi ffens o amgylch ffin y rhan fwyaf o’r safle, i atal ymlusgiaid rhag mynd i mewn. Bydd ffens da byw ychwanegol yn cael ei gosod, pan fydd hynny’n briodol.

Yna, bydd cuddfannau i ymlusgiaid yn cael eu rhoi yn yr ardal sydd wedi’i ffensio, a fydd yn helpu i annog ymlusgiaid i gael eu dal mewn ffordd ddiogel.  Bydd unrhyw rai a welwn yn cael eu hadleoli i’r ardal y tu allan i linell y ffens.  Rydyn ni’n disgwyl clirio ymlusgiaid o’r ardal mewn 30 diwrnod, gan barhau i'w symud yn yr Hydref os bydd angen.

Bydd y tîm hefyd yn ofalus iawn i osgoi tarfu ar adar sy’n nythu yn yr ardal, gan ein bod yn ymwybodol y bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod y tymor bridio adar.  Bydd ecolegydd yn cynnal archwiliadau llystyfiant cyn tynnu unrhyw beth, er mwyn sicrhau nad oes nythod yn yr ardal ble mae gwaith yn cael ei wneud ar y diwrnod hwnnw.

Os oes nythod mewn ardal benodol, bydd clustogfeydd yn cael eu sefydlu o’u cwmpas, ac ni fyddwn yn tarfu ar y nythod nes bod yr adar wedi gadael. Rydyn ni’n disgwyl clirio unrhyw ardaloedd o lystyfiant sydd â nythod ynddynt ym mis Medi, ar ôl i’r adar adael y nyth. 

Bydd y rhaglen waith lawn yn cynnwys nifer o beiriannau gan gynnwys tractor a chloddiwr bach.  Gallwch hefyd ddisgwyl gweld ein tîm yn defnyddio strimwyr, llifiau cadwyn a thorwyr gwrychoedd fel rhan o’r gwaith o glirio llystyfiant, yn ogystal â pheiriant naddu i dorri darnau mwy i lawr.  Bydd unrhyw graean yn cael eu defnyddio fel gwellt ar y safle lle bo hynny’n bosibl, a bydd cartrefi eraill neu ‘gaeafleoedd’ ar gyfer anifeiliaid bach yn cael eu creu gan ddefnyddio boncyffion dros ben mewn lleoliadau y tu allan i’r brif ardal waith.

Mae’r gwaith wedi cael ei drafod yn fanwl a bydd wedi cael ei gymeradwyo gan gynllunwyr ac ecolegydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri cyn i’r gwaith ddechrau. Rydyn ni hefyd wedi cael caniatâd y tirfeddianwyr perthnasol lle bo angen.

Drwy gydol y prosiect, bydd National Grid yn parhau i weithio gyda sefydliadau gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadw i sicrhau bod pob caniatâd angenrheidiol yn cael ei sicrhau.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y prosiect neu am y gwaith sy’n cael ei wneud, mae croeso i chi gysylltu â thîm y prosiect VIP yn uniongyrchol drwy ffonio 0800 019 1898 neu drwy anfon e-bost atom yn [email protected].