Gwaith gosod seilbyst – diweddariad pwysig (Tachwedd 2023)

Cyn hir bydd ein prosiect yn dechrau ar gam hollbwysig yn ein compownd yn Garth. Byddwn yn dechrau paratoi’r siafft lansio dros dro ar gyfer ein Peiriant Twnelu. Dyma’r peiriant a fydd yn creu’r twnnel o dan Aber Afon Dwyryd i Landecwyn.

Bydd rhan gyntaf y gwaith hwn yn cynnwys gosod seilbyst. Mae hon yn broses hanfodol sy’n golygu gosod dalennau dur mawr, sef y seilbyst, i lawr yn y ddaear i greu rhwystr cadarn i greu cynhaliaeth dros dro. Bydd hyn yn golygu ein bod yn gallu cael gwared ar bridd a pharatoi’r siafft lansio ar gyfer ein Peiriant Twnelu. 

Bydd y gwaith hwn yn dechrau yn ystod rhan gyntaf yr wythnos sy’n dechrau ar 13 Tachwedd 2023 a dylid ei gwblhau o fewn pedair i chwe wythnos.

Bydd yr holl waith yn cael ei wneud rhwng 9.00am a 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. 

Er bod gosod seilbyst yn arfer adeiladu angenrheidiol a safonol, bydd y broses hon yn creu mwy o sŵn nag arfer. 

Rydyn ni eisiau sicrhau ein bod yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar y gymuned leol ac rydyn ni wedi ymrwymo i gymryd camau ychwanegol i leihau unrhyw darfu cymaint ag y gallwn ni. 

Byddwn yn defnyddio rhai o’r arferion gorau sydd ar gael ar hyn o bryd o ran mesurau lliniaru sŵn, gan gynnwys y rhwystr sŵn a godwyd yn ddiweddar, paratoi’r tir cyn gosod y seilbyst a defnyddio amdo lleihau sŵn o amgylch top y peiriant gosod seilbyst.

Byddwn yn cymryd cam ychwanegol i sicrhau ein bod yn lleihau’r sŵn drwy gynnal rhagor o waith i fonitro’r sŵn yn ystod cam cyntaf y gwaith gosod seilbyst. Bydd hyn yn mesur canlyniadau ein model sŵn presennol ac yn chwilio am ragor o gyfleoedd i leihau’r sŵn sy’n cael ei gynhyrchu drwy addasu ein dulliau gweithio.

Os oes gennych chi unrhyw faterion neu bryderon brys naill ai cyn neu yn ystod y cam hwn o’r gwaith, cysylltwch â ni ar 0800 019 1898 a gadewch neges os bydd gofyn i chi wneud hynny a byddwn yn cysylltu â’r aelod perthnasol o dîm y prosiect cyn gynted â phosibl.