Transmission electricity pylons and overhead lines over estuary in Wales at sunrise
Gwahoddiad i bobl leol ddysgu mwy am y rhaglen tynnu peilonau yn Aber Afon Dwyryd
  • Bydd deg peilon a 3 cilomedr o linell drydan uwchben yn cael eu tynnu i drawsnewid y dirwedd ar draws Aber Afon Dwyryd, rhwng Penrhyndeudraeth a Llandecwyn ger Porthmadog.
  • Gwahoddiad i bobl leol ymuno â thîm y prosiect yn unrhyw un o gyfres o ddigwyddiadau galw heibio i gael gwybod mwy am y rhaglen adeiladu a fydd yn mynd rhagddi'r flwyddyn nesaf.
  • Mae National Grid yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid ar draws y gymuned i sicrhau bod pawb yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Mae gwahoddiad i drigolion Talsarnau, Llandecwyn, Penrhyndeudraeth a Minffordd ddod i gwrdd ag aelodau o dîm prosiect y National Grid a Hochtief UK a fydd yn gweddnewid y dirwedd mewn rhan unigryw o Barc Cenedlaethol Eryri.

Dechreuodd y gwaith paratoi i dynnu deg peilon ac oddeutu 3 cilomedr o linell drydan ym mis Chwefror eleni fel rhan o brosiect mawr y National Grid i drawsnewid golygfeydd ar draws Aber Afon Dwyryd. Hyd yma, mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar gynnal arolygon allweddol a pharatoi’r safle yn ogystal â dyluniad manwl, ond bydd y prosiect yn dod yn llawer mwy amlwg yn y gymuned o ddechrau’r flwyddyn nesaf ymlaen.

Bydd dau ddigwyddiad galw heibio i roi gwybodaeth i’r cyhoedd yn cael eu cynnal ym mis Rhagfyr, lle gall pobl leol a busnesau gwrdd â’r tîm a dysgu mwy am y prosiect.  Cynhelir y digwyddiadau ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Iau 8 Rhagfyr, 4pm-8pm: Neuadd Gymuned Talsarnau, LL47 6TA
  • Dydd Sadwrn 10 Rhagfyr 12pm-4pm: Y Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth, LL48 6LR

Bydd y peilonau sy’n croesi’r aber yn cael eu disodli gan geblau wedi’u claddu o dan y ddaear fel rhan o brosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP)* y National Grid, sef rhaglen genedlaethol i leihau effaith weledol y llinellau pŵer foltedd uchel presennol mewn ardaloedd gwarchodedig ledled Cymru a Lloegr.

Bydd y rhaglen beirianneg gymhleth hefyd yn cynnwys adeiladu twnnel i gadw’r ceblau trydan yn ddwfn o dan Aber Afon Dwyryd a dau dŷ pen twnnel newydd yn Garth a Llandecwyn.

Dywedodd Steve Ellison, Uwch Reolwr Prosiect, National Grid: “Drwy gydol y flwyddyn rydyn ni wedi bod yn gosod sylfeini allweddol a fydd yn ein galluogi i fwrw iddi pan fyddwn ni’n dechrau adeiladu siafftiau yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Byddwn yn gweithio yn y gymuned a gyda rhanddeiliaid lleol am nifer o flynyddoedd, ac rydyn ni nawr yn awyddus i wahodd pobl leol i gwrdd â’r tîm a chael gwybod beth i’w ddisgwyl.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r gymuned a rhanddeiliaid gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a sawl un arall bob cam o’r ffordd, i fireinio ein cynlluniau er budd y gymuned leol a’r nifer fawr o bobl sy’n ymweld â’r ardal. Yn ein digwyddiadau cyhoeddus bydd fy nhîm wrth law i drafod manylion y cynlluniau ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.”

Ychwanegodd Jonathan Cawley, Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Mae National Grid wedi datblygu’r prosiect mawr hwn gyda mewnbwn ac arweiniad gan randdeiliaid a’r gymuned. Bu'r broses gynllunio yn un hir ond gwych o beth yw ei gweld yn dwyn ffrwyth a'r prosiect yn mynd ati i adfywio’r dirwedd drawiadol hon.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gallu dod i alw heibio’r digwyddiadau a chwrdd â thîm y prosiect, a fydd yn gweithio yn y gymuned dros y blynyddoedd nesaf, gan ddod â llawer o fuddion i fusnesau lleol.”

Bydd y gwaith adeiladu yn 2023 yn dechrau â rhaglen o suddo siafftiau, adeiladu twnelau a thai pen, gosod ceblau a chomisiynu, cyn symud ymlaen i dynnu peilonau a’r llinell uwchben yn 2029.