Photo of pylon looking across the Dwyryd estuary
Diweddariad safle: trefniadau gwaith Nadolig 2023

Bydd gwaith ar brosiect VIP Eryri yn dod i saib dros dro tua diwedd mis Rhagfyr dros gyfnod y Nadolig, cyn i’n timau ddychwelyd i’w gwaith ddechrau Ionawr. Rydym wedi darparu diweddariad isod ar rai agweddau ar ein rheolaeth safle yn ystod y cyfnod hwn.

Rheoli traffig ym Minffordd

Bydd ein contractwr penodedig, HOCHTIEF (UK) Construction Ltd, yn tynnu, dros dro, y cyfyngiadau rheoli traffig sydd ar waith ar y ffordd gefn i Finffordd (rhwng y gyffordd â’r A497 a’n compownd adeiladu) o ddydd Gwener 22 Rhagfyr 2023 hyd at ac yn cynnwys dydd Llun 1 Ionawr 2024.

Bydd y cyfyngiadau rheoli traffig yn ôl ddydd Mawrth, 2 Ionawr 2024. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth hyd yma tra bo'r mesurau hyn ar waith.

I grynhoi, bydd angen y mesurau rheoli traffig ar hyd y ffordd gefn yn ystod y gwaith adeiladu tan fis Rhagfyr 2026. Ar ôl mis Rhagfyr 2026 bydd angen cyfnod byrrach o waith i dynnu’r peilonau i lawr pan fydd y gwaith o osod y ceblau tanddaear wedi’i gwblhau, ac wrth i’n cynlluniau ar gyfer y gwaith hwn ddatblygu, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith gosod seilbyst

Oherwydd amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys y tywydd garw rydym wedi bod yn ei brofi yn ystod yr wythnosau diwethaf, nid ydym wedi cwblhau'r gwaith gosod seilbyst ar gyfer y prosiect o fewn safle Garth eto.

Bydd y gweithgaredd hwn hefyd yn dod i ben am eleni ar 22 Rhagfyr ac yn ailddechrau am gyfnod pellach yn gynnar ym mis Ionawr 2024. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi a byddwn yn anelu at orffen y gwaith pwysig hwn yn ddiogel cyn gynted ag y gallwn.

Gweithrediadau safle Llandecwyn

Bydd gwaith ar ein safle ger Llandecwyn hefyd yn dod i ben ddydd Gwener 22 Rhagfyr ar gyfer gwyliau’r Nadolig. Byddwn yn ailddechrau gwaith yma ddydd Mawrth 2 Ionawr. Mae’n bosibl y bydd Scottish Power Energy Networks (SPEN) yn parhau i weithio yn ystod y cyfnod hwn, fel rhan o’u gweithgarwch parhaus i ddargyfeirio eu llinell uwchben sy’n rhedeg ar draws ein safle, a fydd yn ein galluogi i adeiladu ein siafft yn ddiogel. Gellir cysylltu â nhw ar 0845 270 0783 neu drwy eu gwefan.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hyn neu am unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r prosiect, cysylltwch â thîm y prosiect drwy anfon e-bost atom yn [email protected] neu ffonio 0800 018 1898 (a gadael neges os gofynnir am un – gwrandewir ar negeseuon yn aml a bydd aelod o’r tîm yn dychwelyd eich galwad).

Ar ran y tîm i gyd sy'n gweithio ar gynllun Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, hoffem ddymuno Nadolig heddychlon a Blwyddyn Newydd Dda i chi.