Two National Grid representatives talking with an out of focus office background
Digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr a gynhelir gan Hochtief UK: Dydd Mawrth 6 Mehefin

Mae busnesau lleol sydd â diddordeb yn y cyfleoedd cadwyn gyflenwi sy’n cael eu datgloi gan brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri (VIP) y National Grid yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad Cwrdd â’r Prynwr sy’n cael ei drefnu gan brif gontractwr y cynllun, Hochtief UK.

Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo ar y prosiect, sy’n bwriadu lleihau effaith weledol llinell uwchben y National Grid ar draws Aber Afon Dwyryd o Finffordd i Landecwyn. Bydd deg peilon ac oddeutu tri chilomedr o linell drydan uwchben sy’n croesi’r aber yn cael eu disodli gan geblau wedi’u claddu mewn twnnel yn ddwfn o dan y ddaear.

Er mwyn helpu busnesau i gael gwybod mwy am yr amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael i bartneriaid cadwyn gyflenwi posibl sy’n gweithio ledled Gogledd Cymru, bydd Hochtief UK yn cynnal ei ddigwyddiad Cwrdd â’r Prynwr yn y Neuadd Goffa ym Mhenrhyndeudraeth ddydd Mawrth 6 Mehefin rhwng 9.30am a 1.30pm.

I’r rhai na fydd yn bresennol, bydd cyfle hefyd i gwrdd ag aelodau’r tîm yn rhithiol, drwy sesiynau ar-lein. Mae croeso hefyd i bobl sy’n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth unigol gofrestru a dod i weld y mathau o swyddi a fydd ar gael wrth i’r prosiect fynd rhagddo. 

Bydd llawer o wahanol fathau o waith a cheisiadau am wasanaethau ar gael, gan gynnwys arlwyo, golchi a glanhau, adeiladu, gwaith trydanol, gwaith coed a gwasanaethau plymio, yn ogystal â llety a gwasanaethau thacsis/bysiau a mwy.

Os hoffech chi ddod i’r digwyddiad hwn, cofrestrwch eich diddordeb ac archebwch sesiwn drwy fynd i: https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/prosiect-vip-eryri-digwyddiad-cwrdd-ar-prynwr-a-gynhelir-gan-hochtief-uk/

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynllun VIP Eryri yn gyffredinol, cysylltwch â’n tîm cysylltiadau cymunedol drwy anfon e-bost atom yn [email protected] neu ffonio 0800 019 1898.