Dathlu diwylliant Cymru yn yr Eisteddfod

Mae’r National Grid yn falch o fod wedi noddi Eisteddfod Genedlaethol Cymru eleni ac fe gafodd aelodau o dîm y prosiect VIP Eryri ddiwrnod gwych yn mwynhau holl arlwy'r ŵyl.

Fel y gŵyr llawer o bobl leol, mae’r Eisteddfod yn ddigwyddiad blynyddol o fri sy’n dathlu diwylliant, iaith a chelfyddydau Cymru. Eleni, cynhaliwyd yr ŵyl ym Moduan ger Pwllheli, gyda dalgylch yr Eisteddfod yn ymestyn o Aberdaron yn y gorllewin, i Abergwyngregyn yn y gogledd, a Phenrhyndeudraeth yn y pen dwyreiniol.

Yr hyn roedd y National Grid yn ei noddi yn yr Eisteddfod oedd y teithiau tywys. Roedd y teithiau hyn, a oedd yn cael eu cynnal ddwywaith y dydd, yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr newydd a'r rhai nad oeddent yn gyfarwydd â'r ŵyl, a oedd yn awyddus i ddysgu mwy am yr Eisteddfod a’i thraddodiadau. Bob blwyddyn, mae’r teithiau’n hanfodol er mwyn sicrhau bod yr Eisteddfod yn apelio at y gynulleidfa ehangaf bosibl. Maent hefyd yn allweddol er mwyn cyflwyno pobl newydd i’r Gymraeg a’i diwylliant.

Daeth cydweithwyr o brosiectau ac adrannau eraill y National Grid ledled Gogledd Cymru i ymuno â thîm VIP Eryri ar y diwrnod, yn ogystal â Hochtief UK, sef ein prif gontractwr ar y cynllun VIP Eryri. Cafodd y grŵp gyfle i fwynhau taith dywys, cyfleoedd rhwydweithio amhrisiadwy gyda ffrindiau, rhanddeiliaid a chynrychiolwyr o’r sector ynni yng Nghymru, sgyrsiau a gweithgareddau yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg, yn ogystal â rhywfaint o'r gerddoriaeth wych a'r bwyd blasus a oedd ar gael ar y Maes.

Meddai'r Cynghorydd Gwynfor Owen, aelod Cyngor Gwynedd dros Harlech a Llanbedr, “Mae’n wych bod National Grid wedi cefnogi’r Eisteddfod eleni a chydnabod ei statws yn y calendr Cymreig, yn enwedig â hithau ar garreg drws prosiect Eryri VIP. Rwy’n cymeradwyo ymrwymiad parhaus tîm Eryri VIP i’r iaith Gymraeg, y diwylliant lleol a’r amgylchedd yn y rhan arbennig iawn hon o Gymru.”