Contractors wearing orange high-vis PPE working in a field next to cars with trailers
Cyflawni gwaith tir fel rhan o brosiect VIP Eryri

Bydd rhaglen o waith ymchwiliadau tir yn dechrau y gaeaf hwn o amgylch Aber Afon Dwyryd. Bydd y gwaith yn gwella ein gwybodaeth fanwl am y ddaeareg leol ac yn ein helpu i ddechrau’r prif waith adeiladu ar brosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP) Eryri y National Grid.

Bydd contractwyr sy’n gweithio ar ran y National Grid a Hochtief UK yn cynnal amrywiaeth o arolygon ym mhrif safleoedd y prosiect yn Llandecwyn a Garth dros yr wythnosau nesaf mewn nifer o leoliadau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw.

Bydd y gwaith yn cynnwys monitro bywyd gwyllt lleol, cloddio tyllau turio bach a chymryd samplau craidd. Bydd hyn yn ein helpu i nodi ystyriaethau amgylcheddol ychwanegol ac i fireinio ein cynlluniau cyn cychwyn y prif waith adeiladu ar y safle.

Felly peidiwch â synnu os gwelwch chi rai o’n cerbydau a’n timau mewn siacedi llachar yn yr ardal leol.

Lle bo angen, rydyn ni wedi cael caniatâd gan y tirfeddianwyr perthnasol i fwrw mlaen â’r gweithgaredd hwn. Bydd y National Grid yn parhau i weithio gyda sefydliadau, gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd, er mwyn sicrhau bod gennym bob caniatâd angenrheidiol.

Ochr yn ochr â’n contractwyr a’n his-gontractwyr, ein nod yw cwblhau’r gwaith gan amharu cyn lleied â phosibl ar drigolion lleol ac ymwelwyr i’r ardal.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â thîm prosiect VIP drwy anfon e-bost at [email protected] neu drwy ffonio 0800 019 1898 (a gadael neges os bydd gofyn i chi wneud hynny).