Cyfarfod Trydydd Grŵp Cyswllt Cymunedol yn Nhalsarnau

Gwnaethom gynnal trydydd cyfarfod Grŵp Cyswllt Cymunedol prosiect VIP Eryri ym mis Mehefin, gan barhau â'n haddewid i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i grwpiau lleol am ddatblygiad y prosiect, a rhoi cyfle i gynrychiolwyr lleol roi adborth i dîm VIP y prosiect.

Cynhaliwyd y cyfarfod nos Fercher 21 Mehefin 2023 yn y Neuadd Gymunedol yn Nhalsarnau.  Roedd cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau yn bresennol gan gynnwys Cyngor Tref Penrhyndeudraeth, Cyngor Cymuned Talsarnau, Cyngor Cymuned Maentwrog, Cyngor Gwynedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Ysgol Talsarnau ac Ysgol Cefn Coch, Cymdeithas Eryri, Cerddwyr Meirionnydd ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Roedd y sesiwn yn ymdrin â chynnydd y prosiect dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys y gwaith presennol sydd ar y gweill i sefydlu prif safle adeiladu'r prosiect ym Minffordd, yn ogystal â'r safle llai yn Llandecwyn a'r rhaglen o waith ymchwilio i’r tir sydd wedi dechrau yn Aber y Ddwyryd a’r ardal o’i chwmpas.

Gwnaeth cynrychiolwyr y grwpiau amrywiol a oedd yn bresennol yn y cyfarfod sylwadau ar strategaeth gweithlu leol National Grid VIP, a chafwyd trafodaeth benodol ynghylch cynnydd Hochtief UK wrth nodi llety dros dro ar gyfer ei weithlu yn yr ardal leol. Trafodwyd y Rhaglen Grant Cymunedol sy'n darparu grantiau bach o hyd at £20,000 i sefydliadau ac elusennau cymunedol lleol hefyd gyda nifer o aelodau'r grŵp sy'n awyddus i wneud cais.

Dywedodd Rheolwr Arweiniol y Prosiect, Ellie Frank: "Mae'r Grid Cenedlaethol wedi ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned leol am ddatblygiad a chynnydd ein prosiect yn Eryri, ac mae'r CLG yn un o nifer o sianeli a ddefnyddiwn. Rydym yn falch iawn o weld y diddordeb a'r ymgysylltiad lleol parhaus gyda'r prosiect gwella tirwedd pwysig hwn ac rydym yn edrych ymlaen at gynnal mwy o sesiynau CLG yn y dyfodol."