Asesu’r rheilffordd ar gyfer Darpariaeth Effaith Weledol (VIP) Eryri

Byddwn yn cynnal arolwg dros nos i archwilio’r trac ar ran o’r rheilffordd ger Gorsaf Llandecwyn, gan ddechrau nos Fawrth nesaf 9 Mai am 10pm tan ddydd Mercher 10 Mai am 6am.

Mae angen cynnal y gwaith i asesu cyflwr y llinell a bydd yn cynnwys hyd at bedwar aelod o’n tîm arbenigol o Hochtief UK a chydweithwyr o Network Rail.  Bydd y tîm yn gweithio dros nos i asesu darn 115 metr o reilffordd, cyn i'r gwaith ddechrau ar adeiladu’r twnnel o dan yr aber ac, yn y pen draw, gael gwared ar linellau uwchben yn yr ardal fel rhan o brosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP) Eryri y National Grid.

Peidiwch â synnu os gwelwch chi rai o’n cerbydau a’n timau yn gweithio gyda thortshys ar eu pennau yn yr ardal liw nos. Rydyn ni’n gwneud y gwaith ar yr adeg hon er mwyn osgoi tarfu ar wasanaethau trên lleol yn ystod y dydd. Nid yw’r gwaith tirfesur yn swnllyd, felly ni ddylai ein gweithgareddau darfu ar bobl leol.

Mae’r gwaith hwn i gyd wedi cael ei drafod a’i gymeradwyo’n llawn gan Network Rail, a bydd y National Grid yn parhau i weithio gyda sefydliadau fel Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd drwy gydol y prosiect.

Ochr yn ochr â’n contractwyr a’n his-gontractwyr, ein nod yw cwblhau’r gwaith gan amharu cyn lleied â phosibl ar drigolion lleol ac ymwelwyr â’r ardal.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â thîm y prosiect VIP drwy anfon e-bost at [email protected] neu ffonio 0800 019 1898 (a gadael neges os bydd gofyn i chi wneud hynny).