Photo of National Grid team with charity donation
Ar gefn beic dros achos da

Mae tîm dewr o beirianwyr y Grid Cenedlaethol, gan gynnwys aelodau prosiect Eryri VIP, wedi cyflawni taith feics heriol o 200 milltir ledled Cymru, fel rhan o ymgyrch elusennol i gefnogi banciau bwyd lleol.

Dechreuodd y grwp o naw o feicwyr, gan gynnwys Uwch Reolwr Prosiect Eryri VIP, Steve Ellison, eu taith yn is-orsaf Pentir y Grid Cenedlaethol, yng Ngwynedd. Dros dri diwrnod, gwnaethant deithio hyd a lled Cymru i Flaenafon yn y de, gan seiclo cyfanswm uchder o 14,000 troedfedd – uwch na’r tri chopa uchaf yng Nghymru, Lloegr a’r Alban at ei gilydd! 

Yn ystod bob cymal o’r daith, stopiodd y tîm mewn banciau bwyd lleol dan reolaeth Ymddiriedolaeth Trussell. Gyda thîm cymorth o bedwar o wirfoddolwyr ychwanegol a dau gerbyd trydan y Grid Cenedlaethol, gwnaethant gludo cyfraniadau nifer o hybiau rhoi bwyd a sefydlwyd gan y Grid mewn sawl safle.

Wrth stopio yn ystod y cymal cyntaf ym Mhenrhyndeudraeth, prynodd y tîm rodd o fwydydd yn Siop Dewi, cyn i’r perchennog Dewi Lewis roi’n hael a chyfrannu hefyd.  

Yna, cludwyd y rhain gan y Cynghorydd Meryl Roberts i Eglwys y Drindod lle rhannodd y Parchedig Barnes y rhodd, ochr yn ochr â rhoddion eraill, â’r banc bwyd lleol. Mae’r banc bwyd dan arweiniad menter gymdeithasol - ‘Y Dref Werdd’ - ac elusennau pantri bwyd eraill.

Dywedodd Steve Ellison ar ôl llwyddo i gwblhau’r her: “Yn rhan o’n gwaith parhaus dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ar brosiect Eryri VIP, rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi’r gymuned leol, ac yn awyddus i sicrhau ein bod yn cyfrannu ble bynnag y gallwn”.

“Er gwaethaf y coesau trwm, mae’r ‘Tour de Wales’ wedi talu ar ei ganfed ac yn her werth chweil i fod yn rhan ohoni. Rydyn ni wedi bod yn ddiolchgar iawn am y cyfle i gyflwyno’r rhoddion er lles elusennau lleol sy’n gwneud gwaith mor bwysig yn rhoi cymorth hanfodol i’r rhai mewn angen.”  

Mae’r Ymddiriedolaeth Trussell yn cefnogi rhwydwaith o fanciau bwyd ledled y DU, sy’n darparu bwyd ar frys i bobl sy’n wynebu caledi, yn ogystal â chymorth i helpu pobl i oresgyn yr heriau maen nhw’n eu hwynebu. Mae’n ymgyrchu dros newid i bobl sy’n gaeth i dlodi, a dros ddod â’r angen am fanciau bwyd i ben yn y DU.