
Diweddariad ar y Peiriant Twnelu: 16 Medi 2025
Ers cael ei lansio ym mis Mai eleni, mae Buddug (peiriant twnelu Darpariaeth Effaith Weledol Eryri) wedi gwneud cynnydd da o ran cloddio'r twnnel ar gyfer y ceblau trydan tanddaearol a fydd yn disodli'r 3km o linell uwchben a’r 10 peilon sy'n croesi Aber Afon Dwyryd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Fel mae pethau’n sefyll ddydd Mawrth 16 Medi, mae'r peiriant wedi twnelu 851.73 metr allan o gyfanswm o 3329 metr, ac wedi gosod 682 cylch allan o 2274.
Mae'r map isod yn dangos lle mae'r peiriant twnelu wedi cyrraedd hyd yma, sef ychydig i'r gorllewin o gylchfan Minffordd.

Disgwylir i'r gwaith twnelu gael ei gwblhau yn 2026 pan fydd Buddug yn cyrraedd Llandecwyn.
Os oes gennych chi gwestiynau am hyn neu am y prosiect yn gyffredinol, cysylltwch â thîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri drwy anfon e-bost atom yn [email protected], neu ffonio 0800 019 1898 rhwng 9am a 5:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges ac fe wnaiff aelod o’n tîm gysylltu â chi.