
Diweddariad ar y Peiriant Twnelu: 14 Hydref 2025
Ers cael ei lansio ym mis Mai eleni, mae Buddug (peiriant twnelu Darpariaeth Effaith Weledol Eryri) wedi gwneud cynnydd da o ran cloddio'r twnnel ar gyfer y ceblau trydan tanddaearol a fydd yn disodli'r 3km o linell uwchben a’r 10 peilon sy'n croesi Aber Afon Dwyryd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Fel mae pethau’n sefyll ddydd Iau 14 Hydref, mae'r peiriant wedi twnelu 1090.8 metr allan o gyfanswm o 3329 metr, ac wedi gosod 909 cylch allan o 2274.
Mae'r map isod yn dangos lle mae'r peiriant twnelu wedi cyrraedd hyd yma

Disgwylir i'r gwaith twnelu gael ei gwblhau yn 2026 pan fydd Buddug yn cyrraedd Llandecwyn.
Os oes gennych chi gwestiynau am hyn neu am y prosiect yn gyffredinol, cysylltwch â thîm prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri drwy anfon e-bost atom yn [email protected], neu ffonio 0800 019 1898 rhwng 9am a 5:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch neges ac fe wnaiff aelod o’n tîm gysylltu â chi.