Ar ran orllewinol ein rhwydwaith, bydd cynyddu’r capasiti i ddarparu ar gyfer mwy o nwy o derfynell LNG Cwmni South Hook Gas yn cefnogi’r trawsnewid i sero-net.
Mae’r ffordd rydym yn cyflawni’r cynnydd hwn mewn capasiti yn bwysig – mae adeiladu’n creu effeithiau amgylcheddol a chymunedol, a thelir am gost y gwaith gan gartrefi a busnesau trwy filiau ynni.
Fe wnaeth dadansoddiad trylwyr a manwl o’n rhwydwaith ddatgelu sut gallwn gynyddu capasiti drwy’r maint lleiaf o seilwaith newydd, yr effaith leiaf ar bobl a’r amgylchedd ac am y gost leiaf. Mae’n sicrhau gwerth gorau i ddefnyddwyr yn y DU.
Bydd ein gwaith yn cynnwys:
- Gosod 9 cilometr o biblinell nwy tanddaear newydd rhwng ein cyfleusterau presennol gerllaw Wormington, Swydd Gaerloyw, a Honeybourne, Swydd Gaerwrangon.
- Cysylltu bob pen o’r biblinell i’r cyfleusterau presennol.
Gan y bydd y biblinell newydd danddaear a’n bod yn uwchraddio seilwaith presennol, gellir ymgymryd â llawer o’r gwaith fel datblygiad a ganiateir (mae hyn yn disgrifio rhai mathau o waith y gellir ymgymryd ag ef heb yr angen i wneud cais am ganiatâd cynllunio). Mae angen cydsyniad gan awdurdodau lleol arnom ar gyfer rhai rhannau o’r prosiect ac i weithio gyda pherchnogion tir y bydd eu heiddo yn cynnal y seilwaith. Hoffwn hefyd ymgysylltu â chynrychiolwyr etholedig, trigolion a busnesau lleol - bydd eu hadborth yn ein helpu i ddylunio gweithgarwch adeiladu yn y modd mwyaf priodol. Ar hyn o bryd mae’r gwaith wedi’i raglennu ar gyfer 2024, ond gallai hyn newid.
Cynyddu gwasgedd
Bydd rhan o’r gwaith hwn yn cynnwys cynyddu’r gwasgedd y mae nwy yn teithio trwy ein piblinellau nwy tanddaear yn rhan orllewinol ein rhwydwaith, gan ganiatáu i fwy o nwy deithio trwy’r biblinell yn gyflymach.
Cyfeirir at y cynnydd hwn mewn gwasgedd fel uwchraddio. I sicrhau bod safonau diogelwch llym yn parhau i gael eu bodloni pan fydd y biblinell yn cael ei huwchraddio, mae’n rhaid i ni uwchraddio ein safleoedd Gosodiad Ar y Tir (AGI) presennol. Byddwn hefyd yn ychwanegu teils concrit uwchben rhan o’r biblinell bresennol i’w hamddiffyn rhag difrod damweiniol gan offer palu.
Mae deg safle AGI i gyd y bydd angen eu huwchraddio, ac mae pob un yn gwneud cyfraniad pwysig at reoli gwasgedd y biblinell nwy. Bydd angen gwneud gwaith uwchraddio cymharol fach ar strwythurau presennol saith AGI. Mae angen ymestyn tri ychydig o fewn y tir y mae’r Grid Cenedlaethol eisoes yn berchen arno.
Bydd y gwaith hwn i uwchraddio ein seilwaith presennol yn cael ei wneud trwy’r hyn a elwir yn ddatblygu a ganiateir ac ni fydd angen caniatâd cynllunio ffurfiol.
Fodd bynnag, mae’r Grid Cenedlaethol yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid statudol, tirfeddianwyr a’r cyhoedd ar bob rhan o’n gwaith i sicrhau ein bod yn penderfynu ar y cynllun mwyaf priodol.