Uwchraddio ein rhwydwaith presennol

Cefndir

Mae’r Grid Cenedlaethol yn dod ag ynni’n fyw trwy gludo gwres, golau a phŵer i dai a busnesau pobl. Rydym hefyd wrth galon chwyldro i greu dyfodol ynni mwy gwyrdd, ac rydym yn ymroddedig i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr uniongyrchol ein hunain i sero-net erbyn 2050, yn unol â tharged cyffredinol y DU.

Nid rhywbeth y gallwn ei gyflawni dros nos yw unioni’r fantol rhwng faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchwn a faint y byddwn yn ei dynnu o’r atmosffer.

Wrth i ni archwilio ffyrdd newydd i harneisio ynni adnewyddadwy a newydd y ffordd y gweithredwn, mae’n rhaid i ni barhau i ddod ag ynni’n fyw drwy beirianneg drawsnewidiol sy’n darparu’r hyn y mae ei angen ar gartrefi a busnesau.

Nwy yw sylfaen y siwrnai i gyflawni sero-net. Mae’n darparu ffynhonnell gwres a phŵer diogel a dibynadwy i dros 80% o gartrefi a busnesau Prydain. Trwy gyflenwi sylfaen ddibynadwy i fodloni galw’r wlad am ynni, mae’n galluogi mwy a mwy o arloesi a thyfu ffynonellau ynni adnewyddadwy glanach, ond mwy ysbeidiol.

Gall nwy helpu datgarboneiddio gwres hefyd, sef ffynhonnell allyriadau carbon fwyaf y DU, am y gost isaf a gyda’r tarfu lleiaf i ddefnyddwyr. Mae hyn yn wir ar gyfer nwy naturiol a mathau eraill o nwy fel hydrogen a biomethan.

Ar yr un pryd, mae newid o ran ble y daw ein nwy ni ar hyn o bryd. Mae’r nwy sydd ar gael o feysydd Môr y Gogledd wedi lleihau ac i wneud iawn am y gwahaniaeth, mae mewnforion trwy derfynellau Nwy Naturiol Hylifedig (LNG) yn cynyddu.

Mae angen i’r Grid Cenedlaethol ymateb i’r newidiadau hyn. Rydym yn hwyluso cystadlu ym maes cyflenwi nwy ym Mhrydain ac yn sicrhau bod rhwydwaith trosglwyddo nwy y DU – sef y pibelli a’r tyrbinau sy’n gyrru nwy o amgylch y wlad – yn gallu darparu ar gyfer natur newidiol cyflenwi. Rydym yn cysylltu ffynonellau cyflenwadau â chartrefi a busnesau.

Trosolwg o’r Prosiect

Yn rhan orllewinol ein rhwydwaith, mae galluogi’r newid i sero net yn golygu ein bod ar y trywydd cywir i gynyddu’r capasiti i ddarparu ar gyfer mwy o nwy o derfynell Nwy Naturiol Hylifedig (LNG) South Hook o 2025.

Mae’r ffordd rydym yn cyflawni’r cynnydd hwn mewn capasiti yn bwysig – mae effeithiau amgylcheddol a chymunedol ynghlwm wrth adeiladu, a chartrefi a busnesau sy’n talu costau hyn trwy filiau ynni.

Mae dadansoddiad trylwyr a manwl o’n rhwydwaith wedi datgelu sut y gallwn gynyddu capasiti trwy’r swm lleiaf o seilwaith newydd, yr effaith leiaf ar bobl a’r amgylchedd, ac am y gost leiaf. Mae’n cynrychioli’r gwerth gorau i ddefnyddwyr yn y DU.

Cynyddu pwysedd 

Bydd rhan o’r gwaith hwn yn cynnwys cynyddu’r pwysedd ar gyfer symud nwy trwy ein piblinellau nwy tanddaearol yn rhan orllewinol ein rhwydwaith, gan alluogi mwy o nwy i fynd trwy’r biblinell bresennol. Cyfeirir at y cynnydd hwn mewn pwysedd fel uwchraddio. Rydym yn gweithio’n agos â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ddangos y bydd y rhwydwaith yn parhau i fodloni safonau diogelwch llym gyda’r cynyddiadau bach hyn. Rhaid i ni addasu rhai o’n safleoedd Gweithfeydd Ar y Tir (AGI) presennol er mwyn galluogi’r uwchraddio hwn.
Mae angen gwaith uwchraddio mewn nifer o safleoedd AGI, ac mae pob un yn chwarae rhan bwysig yn rheoli pwysedd yn y biblinell nwy. Bydd angen addasiadau cymharol fach ar strwythurau presennol yn achos mwyafrif y safleoedd AGI. Mae  rhai safleoedd eraill angen offer ychwanegol neu estyniadau cymedrol naill ai o fewn tir sydd ym mherchenogaeth bresennol y Grid Cenedlaethol neu ar dir nad yw ym mherchenogaeth y Grid Cenedlaethol.
Dyma restr o’r safleoedd AGI:
 
•    Cil-ffriw 
•    Alltwern 
•    Felindre 
•    Aberllynfi 
•    Llanwrda 
•    Tirley 

Oherwydd ein bod yn uwchraddio’r seilwaith presennol, gellir gwneud llawer o’r gwaith fel datblygiad a ganiateir (mae hyn yn disgrifio rhai mathau o waith y gellir eu gwneud heb fod angen i ni wneud cais am ganiatâd cynllunio) er ein bod yn hysbysu’r awdurdod lleol perthnasol ac yn cytuno ar fesurau i’w mabwysiadu i leihau effeithiau posibl y gwaith adeiladu. Fodd bynnag, mae arnom angen caniatâd gan awdurdodau lleol ar gyfer rhai rhannau o’r prosiect – ac mewn rhai achosion, mae angen i ni weithio â pherchenogion tir lle mae’r seilwaith wedi’i leoli. Hoffem glywed gan y cymunedau lleol hefyd – bydd eu hadborth yn ein helpu i ddylunio gweithgarwch adeiladu yn y ffordd fwyaf priodol. Ar hyn o bryd, mae’r gwaith wedi’i raglennu ar gyfer 2024, ond gall hyn newid. 

Gwyliwch ein hanimeiddiadau

Dysgwch fwy am ein prosiect a sut rydym yn gweithio gyda chymunedau

O ble mae eich nwy yn dod?

Gwyliwch ein ffilm fer i gael gwybod

Gweithio gyda chymunedau

Dysgwch fwy am ein prosiect a sut rydym yn gweithio gyda chymunedau.

Datblygu ein rhwydwaith nwy

Dysgwch sut rydym yn datblygu a chynnal ein rhwydwaith nwy hanfodol