Crynodeb o’n dull
Ein nod yw cysylltu pobl â’r ynni maent yn ei ddefnyddio – boed hynny i wresogi a goleuo eu cartrefi neu i bweru ffatrïoedd a swyddfeydd. Mae hyn yn golygu ein bod mewn sefyllfa i fynd i’r afael ag un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r DU – sut y bydd yn cyflawni ei thargedau ynni carbon isel ac yn cysylltu ffynonellau newydd o ynni glân i gyflenwi ein cymunedau.
Mae’n rhaid i ni gydbwyso nifer o faterion allweddol wrth ddatblygu llinellau trawsyrru newydd. Yn arbennig, mae’n rhaid i ni gadw costau’n isel i’r defnyddiwr; ac mae’n rhaid i ni ystyried sut y gallwn leihau effaith weledol ein seilwaith grid ar y dirwedd yn y ffordd rydym yn lleoli ein llinellau neu’r math o dechnoleg a ddefnyddiwn.
Ein hymrwymiad
Wrth i’r DU greu cenhedlaeth newydd o ffynonellau ynni gwyrdd newydd – bod yn ynni niwclear, gwynt a mathau eraill o ynni adnewyddadwy, nwy neu lo glân – ein gwaith yw cysylltu’r pŵer hwn â’r rhwydwaith trydan a’i gludo i ble bynnag y bydd yn cael ei ddefnyddio.
Yn aml, mae’r ffynonellau pŵer newydd hyn mewn mannau lle nad oes llawer o linellau pŵer ar hyn o bryd, felly bydd angen cysylltiadau newydd.
Mae penderfynu ble a sut i adeiladu llinellau newydd yn gymhleth. Llinellau uwchben yw’r rhan fwyaf o’r rhwydwaith cyfredol, gan mai dyma’r ffordd fwyaf cost-effeithiol o drawsyrru trydan ar draws y wlad. Ond rydym yn deall y pryderon ynglŷn ag effaith weledol y llinellau trawsyrru newydd sydd eu hangen.
Yn dilyn ymgynghoriad eang a gynhaliwyd rhwng mis Rhagfyr 2010 a mis Gorffennaf 2011, rydym wedi datblygu dull newydd o gynllunio a llwybro llinellau trawsyrru trydan newydd. Gan ddefnyddio’r broses hon, byddwn yn rhoi mwy o bwyslais ar leihau effaith weledol ein seilwaith fel rhan o’n ceisiadau cynllunio. Mae hyn yn cyd-fynd â pholisi’r Llywodraeth a amlinellwyd yn ddiweddar yn y Datganiadau Polisi Cenedlaethol.
Nid ydym yn ffafrio atebion uwchben neu o dan ddaear ar gyfer unrhyw un o’n prosiectau. Rydym bob amser yn ceisio gweithio gyda’n holl randdeiliaid a chymunedau lleol i ddod o hyd i’r cydbwysedd gorau rhwng cadw costau’n isel i ddefnyddwyr a’r angen i leihau effaith weledol y llinellau newydd hyn. Cynhelir yr asesiad hwn fesul achos i sicrhau bod ystyriaethau lleol yn cael eu deall a’u hystyried yn llawn.
Rhagor o wybodaeth