English version / Fersiwn Saesneg
Mae’r Grid Cenedlaethol wedi cyhoeddi ei ddull newydd o gynllunio a llwybro llinellau trawsyrru trydan newydd.
Cynhaliwyd ymgynghoriad rhwng mis Rhagfyr 2010 a mis Gorffennaf 2011 ar ddull newydd o osod ceblau o dan ddaear. Mae Ein Dull o Gynllunio a Llwybro Llinellau Trawsyrru Trydan Newydd cyhoeddedig yn seiliedig ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn.
Gallwch ddarllen yr Adroddiad ar yr Ymgynghoriad ar Osod Ceblau o dan Ddaear i gael manylion adborth ar yr ymatebion i’n hymgynghoriad a sut rydym wedi defnyddio’r cyngor hwnnw i ddatblygu ein dull newydd.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr adran Cwestiynau Cyffredin.
Ein proses ymgynghori: a sut y gallwch fynegi eich barn
Byddwn bob amser yn ymgynghori’n eang i sicrhau bod pawb yn cael mynegi barn, yn unol â chanllawiau cynllunio cenedlaethol.
Yn arbennig, byddwn yn gofyn am sylwadau gan gymunedau lleol, rhanddeiliaid technegol ac awdurdodau lleol. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn cael amrywiaeth lawn o safbwyntiau i lywio ein cynlluniau.
Byddwn yn agored gyda gwybodaeth ac ynglŷn â sut rydym wedi defnyddio’r holl fewnbwn i lywio ein penderfyniadau.
Mae yna sawl cam i’r broses ymgynghori hon, ac wrth i ni fynd trwy’r camau hyn, byddwn yn lleihau’r dewisiadau yng ngoleuni adborth gan randdeiliaid.
Yn olaf, byddwn yn cyflwyno ein canfyddiadau i’r corff penderfynu (y Comisiwn Cynllunio Seilwaith ar hyn o bryd) a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn ag a ydym wedi sicrhau’r cydbwysedd priodol rhwng lleihau effaith weledol llinellau trawsyrru newydd a lleihau costau i ddefnyddwyr.
Caiff y broses ei hesbonio’n fanylach yn ein dogfen newydd: Dull y Grid Cenedlaethol o Gynllunio a Llwybro Llinellau Trawsyrru Trydan Newydd.
Nod ein dull newydd yw sicrhau cydbwysedd o ran diwallu anghenion y rheini sy’n cael eu heffeithio gan ein gwaith ar y seilwaith, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau ein bod yn darparu atebion derbyniol i gymaint o bobl â phosibl.
Er mwyn cysylltu ffynonellau ynni newydd, mae angen i’n rhwydwaith gael ei adeiladu yn rhywle ac, yn yr adegau anodd hyn, mae’n rhaid i ni wario arian defnyddwyr yn ofalus ar atebion fel gosod ceblau o dan ddaear, gan sicrhau cydbwysedd rhwng y nod hwnnw a gwarchod amwynderau gweledol a’r amgylchedd rydym yn byw ynddo.
Bydd ein dull diwygiedig yn ein helpu ni i weithio gyda rhanddeiliaid a chymunedau i ddarparu’r atebion gorau posibl fel bod diogelwch ynni’r wlad yn cael ei gynnal dros y degawdau i ddod.
Os hoffech chi gysylltu’n uniongyrchol â thîm yr ymgynghoriad ar osod ceblau o dan ddaear, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Ffôn: 0800 319 6175
E-bost: info@nationalgridundergrounding.com
Post: National Grid Undergrounding Consultation
FREEPOST NAT3717
London
SE1 2BR
Sut fydd y dull newydd yn llywio prosiectau seilwaith mawr sydd eisoes ar waith?
Mae ein dogfen dull newydd yn amlinellu’r broses y byddwn yn ei defnyddio i ddatblygu’r prosiectau hyn: camau’r ymgynghoriad; y bobl a’r sefydliadau y byddwn yn ymgynghori â nhw; a’r ffordd y byddwn yn arfarnu a lleihau’r dewisiadau. Fel rhan o’r broses hon, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid a chymunedau i bennu’r ffordd orau o leihau effeithiau gweledol, gan gynnwys nodi unrhyw ardaloedd lle dylid gosod ceblau pob llwybr newydd o dan ddaear.
Rhagor o wybodaeth